Bydd Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones yn cael eu rhoi ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych heddiw (dydd Mawrth, Mai 31).

Pwrpas y ddwy fedal yw gwobrwyo pobol sydd yn dysgu Cymraeg, neu wedi dysgu Cymraeg, ac sy’n falch o siarad Cymraeg.

Mae pobol 18 i 25 oed yn gallu cystadlu trwy ddangos sut maen nhw’n defnyddio Cymraeg bob dydd – yn y coleg neu yn y gwaith, yn gymdeithasol, neu’n annog pobol eraill i siarad Cymraeg.

Medal Bobi Jones

Gwobr eithaf newydd yw Medal Bobi Jones.

Cafodd ei rhoi am y tro cyntaf yn 2019.

Mae’n cael ei rhoi i bobol ifanc Blwyddyn 10 hyd at 19 oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith bob dydd – yn yr ysgol, y coleg neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

Mae seremoni a Medal Bobi Jones yn cael eu noddi gan Brifysgol Caerdydd.

Clwb Rotari Dinbych sydd wedi rhoi Medal y Dysgwyr, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n noddi’r seremoni.