Mae 2022 wedi bod yn gorwynt o flwyddyn, a dw i wedi bod yn lwcus iawn i greu sawl atgof gwych efo fy nheulu a ffrindiau.

Wrth edrych yn ôl, dw i hefyd wedi mwynhau llawer o lyfrau ac albymau eleni. Felly, dyma rhai o’r llyfrau a cherddoriaeth dw i wedi mwynhau fwyaf…

Llyfrau

Ym mis Ionawr eleni, mi wnes i osod her darllen i fi fy hun i ddarllen 60 llyfr yn 2022. Dw i wedi colli trac erbyn hyn ond yn eithaf hyderus fy mod i wedi mynd heibio fy nharged.

Heb os, fy hoff lyfr o 2022 yw Burning Questions gan Margaret Atwood sef casgliad o draethodau ac erthyglau dros gyfnod o 17 mlynedd. Dw i’n ffan fawr o’r awdures ar ôl astudio ei llyfrau, felly roeddwn i’n awyddus iawn i ddarllen ei llyfr newydd.

Yn y casgliad, mae hi’n edrych ar faterion fel newid hinsawdd a gwyddoniaeth, yn ogystal â phynciau fel diwylliant a hawliau menywod.

Fel y rhan fwyaf o lyfrau dw i’n mwynhau, dw i’n cofio yn union le roeddwn i pan ddarllenais Burning Questions. Mi wnes i ddarllen y rhan fwyaf ohono ar drên i lawr i Gaerdydd ym mis Mawrth. Roedd hi’n gwmni perffaith i siwrne hir – doeddwn i ddim yn gallu rhoi’r llyfr i lawr!

Dyma rhai o’r llyfrau eraill dw i wedi mwynhau yn fawr iawn, ac yn argymell:

Rhyngom gan Sioned Erin Hughes

The Marriage Portrait gan Maggie O’Farrell

Y Bwthyn gan Caryl Lewis

Memphis gan Tara M. Stringfellow

Troubling Love a The Lost Daughter gan Elena Ferrante

Cwlwm gan Ffion Enlli

Young Mungo gan Douglas Stuart

Year of the Monkey ac A Book of Days gan Patti Smith

Recordiau a Cherddoriaeth

Dw i wedi bod ffodus iawn eleni i weld dau o fy hoff artistiaid: Patti Smith a Bob Dylan. Roeddwn i mor gyffrous i weld y ddau ohonyn nhw a wnaethon nhw ddim fy siomi o gwbl: dau o’r gigs gorau dw i erioed wedi eu gweld! Yn ogystal â gwrando ar recordiadau gan y ddau artist yma, dw i hefyd wedi ychwanegu ambell albwm i fy nghasgliad recordiau.

Gig arall, wel, gŵyl mewn gwirionedd, sy’n aros yn y cof yw Gŵyl Ara Deg ym Methesda lle gwelais Melin Melyn, Gruff Rhys a Carwyn Ellis a’i fand. Gwledd o gerddoriaeth go iawn!

Prynais yr albwm Blomonj gan Melyn Melin ar ôl eu gweld nhw’n perfformio. Er bod yr albwm yma wedi cael ei rhyddhau yn 2021, mae wedi cael ei chwarae llawer o weithiau yn fy nhŷ i eleni!

Dyma ambell un o fy hoff albymau sydd wedi cael eu rhyddhau neu wedi cael eu chwarae llawer yn 2022:

Amser Mynd Adra gan Papur Wal

Tresor gan Gwenno

Blue gan Joni Mitchell

Bato Mato gan Adwaith

Pyst gan Datblygu

Anrheg Nadolig munud olaf?

Dach chi’n chwilio am anrheg munud olaf? Dim beirniadaeth yma – dw i dal heb orffen fy siopa Dolig! Beth am roi iaith yn anrheg? Ewch i wefan Dysgu Cymraeg i ddarganfod mwy am wersi Cymraeg – o lefel mynediad i loywi – sy’n dechrau ym mis Ionawr. Does dim anrheg well!

Felly, yr unig beth sydd ar ôl i’w ddweud yw Buon Natale! Dw i’n dymuno Nadolig Llawen iawn i holl ddarllenwyr Lingo360, a phob dymuniad da ar eich teithiau dysgu wrth i ni groesawu blwyddyn newydd. Gobeithio y cewch chi Nadolig hyfryd – wela’i chi yn 2023!