Bob blwyddyn – mis Ionawr fel arfer – dw i’n mwynhau creu rhestr o obeithion darllen. Dw i’n llyfrbryf ymroddgar – dyma’r teitl dw i wedi rhoi i fi’n hun a dw i’n ei wisgo efo balchder. Mae’n rhywbeth eithaf tebyg i ysgrifennu rhestr o addunedau Flwyddyn Newydd fel bwyta llai o siocled, neu yfed llai o win. Dw i’n siŵr eich bod chi wedi dyfalu yn barod, ond dw i’n llawer mwy tebygol o sticio at y rhestr ddarllen.

Fel arfer, dw i’n ysgrifennu rhywbeth fel hyn: darllen mwy o lyfrau ffeithiol, neu drio gwrando ar fwy o lyfrau sain. Ym mis Ionawr 2022, dim ond un peth oedd ar fy rhestr, dim ond un gobaith llenyddol i’r flwyddyn i ddod: darllen mwy o lyfrau sydd wedi cael eu cyfieithu.

Daeth y syniad oherwydd fy nghariad tuag at yr awdures enwog a phoblogaidd o’r Eidal: Elena Ferrante. Mae genna’i obsesiwn efo’i llyfrau ac oherwydd hyn, roeddwn i isio darganfod mwy o leisiau llenyddol o wledydd pell. Yn anffodus, dydy fy Eidaleg ddim yn ddigon da i ddarllen ei llyfrau ond gobeithio, un diwrnod mi fydda i’n gallu darllen pob un nofel gan Elena Ferrante yn ei mamiaith, sydd hefyd yn famiaith i lawer o fy nheulu i.

Roedd mis Awst yn nodi prosiect ‘Women in Translation’ yn y byd llenyddol. Rhywbeth doeddwn i ddim yn gwybod, yn anffodus, tan wythnos diwethaf efo mis Medi ar y gorwel. Heb sylweddoli, wnes i ddarllen dau lyfr ym mis Awst sydd wedi cael eu cyfieithu o famiaith yr awduron, ac sy’n digwydd bod yn ferched.

Y ddau lyfr yw The Queens of Sarmiento Park gan Camila Sosa Villada a The Trio gan Johanna Hedman. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, prynais y ddau lyfr oherwydd y cloriau. Mae’r ddau mor wahanol i’w gilydd. Llythrennau mawr a thrwm yn eistedd uwchben llun du a gwyn ar glawr The Trio: llyfr sydd wedi cael ei gyfieithu o Swedeg ac wedi’i leoli mewn dinasoedd Ewropeaidd. Mae clawr The Queens of Sarmiento Park, ar y llaw arall, yn llawn lliw ac yn debyg i gynfas, hollol hardd.

Wnes i ffeindio fy nghopi o The Queens of Sarmiento Park ar silff lyfrau yn stondin Paned o Gê ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron. Dyma oedd yr unig gopi ar ôl, fel bod y llyfr yn disgwyl amdana i. Roeddwn i wedi clywed am y siop yng Nghaerdydd ac wedi bod isio mynd ers tipyn. Dw i dal heb ymweld â’r siop eto ond yn edrych ymlaen at fynd cyn bo hir.

Beth bynnag, nol i’r llyfr ei hun. Wel, mae wedi cael ei gyfieithu o Sbaeneg – mae’r awdures yn dod o’r Ariannin – ac mae’n rhannol seiliedig ar brofiadau’r awdures ei hun. Mae’n llyfr teimladwy iawn sydd yn fyr ond efo stori a chymeriadau miniog, hudolus a phwerus. Doeddwn i ddim yn gallu rhoi’r llyfr i lawr, a dw i ddim wedi stopio meddwl amdano ers troi’r dudalen olaf.

Mae gen i restr o lyfrau i ddarllen cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio, gan gynnwys The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros. Fel llawer o ddarllenwyr, mae Llyfr Glas Nebo yn llyfr sydd wedi aros efo fi ers ei ddarllen am y tro cyntaf nôl yn 2018.

Mwy nag unrhyw beth arall, mae genna’i chwilfrydedd i ddarllen y cyfieithiad Saesneg o Llyfr Glas Nebo i weld sut mae’r awdures wedi newid neu siapio’r stori mewn ffordd wahanol. Dw i hefyd wedi clywed llawer o bethau da am y fersiwn Saesneg ac yn falch i weld llyfr mor bwerus yn cyrraedd darllenwyr Cymru a thu hwnt.

Dw i’n gobeithio gweld copi Eidaleg o Llyfr Glas Nebo ar y silffoedd yn y dyfodol. Am anrheg hyfryd i anfon at fy nheulu yn yr Eidal. A phwy a ŵyr, efallai mi fydda i’n gallu ei ddarllen un diwrnod. Gawn ni weld!