Mae pobol ifanc a staff addysg yng Nghymru yn gallu cael gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim fel rhan o gynllun newydd i gynyddu faint o bobol sy’n siarad Cymraeg.

Fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru, mae pobol 18-25 oed yn gallu cofrestru ar gyrsiau Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r gwersi ar gael i bob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cryfhau‘r elfen o ddysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd.

Bydd staff addysg yn gallu cael mynediad at borth ar-lein i ddod o hyd i gwrs sy’n addas, gan gynnwys opsiynau rhithiol, gwersi wyneb yn wyneb a hunanastudio.

Ar hyn o bryd, mae pobol 16 i 18 oed mewn ysgolion a cholegau yn cymryd rhan mewn prosiectau peilot dysgu digidol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a SaySomethingInWelsh, ac mae mentrau eraill ar gael fel cwrs byr ar-lein gyda Gwobr Dug Caeredin, a chynllun peilot magu hyder mewn Cymraeg ym Mhowys.

Bydd tystiolaeth a data o’r prosiectau peilot yn llywio cynllun cenedlaethol ar gyfer pobol 16 i 18 oed o 2023.

‘Cam allweddol

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg Cymru, yn dweud ei fod e’n falch o gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu’r iaith.

“Mae cynyddu nifer yr addysgwyr sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i gyflawni ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai.

“Mae hyn yn ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gael mynediad at gyrsiau Cymraeg am ddim.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.”

‘Dylai pawb gael y cyfle’

Mae’r fenter gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Mae Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, yn dweud ei fod yn gam arall ymlaen.

“Dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg a phrofi manteision diwylliannol a chymdeithasol gwneud hynny,” meddai.