Mae plant ysgol o Hwlffordd yn Sir Benfro wedi bod yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf.

Roedd y plant o Ysgol Prendergast yn Hwlffordd wedi teithio i Sir Ddinbych ddydd Llun (30 Mai). Maen nhw wedi bod yn cystadlu yn y parti unsain Blwyddyn 6 ac iau.

Louise John ydy pennaeth yr ysgol. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd. Roedd hi wedi dod yn bennaeth yr ysgol ym mis Medi’r llynedd.

Doedd y plant heb gael y cyfle i fynd ar y llwyfan y tro yma ond mae Louise John yn dweud eu bod nhw wedi gwneud yn dda iawn.

“Doedd neb wedi bod yma o’r blaen a lot o’r plant ddim wedi siarad Cymraeg o’r blaen. Doedd llawer ohonyn nhw ddim yn gwybod dim byd am yr Urdd. Ond am ein bod yn dathlu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed ry’n ni wedi bod yn gwneud lot yn yr ysgol i godi diddordeb yn y Gymraeg. Ry’n ni wedi bod yn gweld sut beth ydy bod yn Gymro neu’n Gymraes. Mae’n gyfle arbennig i’r plant. Maen nhw wedi mwynhau yn fawr iawn,” meddai Louise John.

Plant Ysgol Prendergast yn Hwlffordd oedd yn cystadlu yn y parti unsain

Mae hi’n dweud bod yr ysgol wedi cael llawer o help gan y rhieni i dalu am y daith o Hwlffordd i Sir Ddinbych. Mae hi’n gobeithio mai dyma fydd dechrau eu taith gyda’r Urdd.

“Ry’n ni’n gobeithio mynd yn ôl i’r ysgol nawr a chael mwy o blant i gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf pan fydd yn dod i Lanymddyfri [yn Sir Gaerfyrddin] sy’n agosach i Hwlffordd. Fyddwn ni yn gwneud yn siŵr nawr bod yr ysgol yn cymryd rhan ym mhob eisteddfod.”

Mae Louise John yn dweud bod cymryd rhan yn yr Eisteddfod wedi helpu’r plant gyda’u Cymraeg.

“Dw i’n gweld e achos dw i wedi dysgu Cymraeg fy hun. Ry’n ni wedi cael cyfle i wneud ymarfer corff efo rygbi a phêl-droed y flwyddyn hon ac mae lot mwy o blant eisiau siarad Cymraeg. Pan ti’n cerdded o gwmpas yr ysgol ti’n clywed Cymraeg, ti’n clywed y plant yn canu yn Gymraeg. Pan maen nhw’n mynd i weld tîm Cymru yn chwarae rygbi neu bêl-droed mae’r plant yn dod ’nôl ac yn gofyn ‘allet ti ddysgu ni i ganu Yma o Hyd fel Dafydd Iwan?’ so dyna beth ni wedi bod yn gwneud hefyd. Mae’n ffantastig. Felly fyddwn ni yn gwneud llawer mwy fel ysgol nawr ac yn gweithio efo ysgolion eraill yn Sir Benfro i wneud yn siŵr bod y plant yn dysgu Cymraeg fel maen nhw’n dysgu Saesneg ac ieithoedd eraill hefyd.”