Ym mis Ebrill eleni, ges i’r cyfle i fynd ar gwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Treuliais wythnos gofiadwy iawn yno efo criw o bobl wnaeth ddod yn ffrindiau. Arhosais mewn bwthyn bach efo’r enw ‘Clwydfa’. Enw addas iawn i rywun sy’n byw yn Sir Ddinbych ac yn gweld Bryniau Clwyd bob dydd. Felly, er roeddwn i dipyn bach yn nerfus i ddechrau’r cwrs, roedd yna ddarn bach o adra efo fi i wneud i fi deimlo’n well.

Derbyniais negeseuon gan Harri, adra yn Rhewl, a Mam, Dad a Cristina, fy chwaer, yn dweud wrtha’i i fwynhau’r wythnos a pha mor gyffrous oedden nhw i glywed am bob dim. Efo gwên, mi wnes i ateb yn dweud “grazie mille, diolch yn fawr” ac anfon llun bach atyn nhw o’r olygfa o fy ffenest. Ysgrifennais: “wedi cyrraedd Nant Gwrtheyrn yn saff, ‘di cyfarfod y ‘locals’ yn barod – croesawgar iawn!” Yn y llun, gallwch chi weld yr awyr las uwchben y llethrau, rhes o fythynnod, a’r geifr – aka y ‘locals’ – yn mwynhau’r haul. Ar ôl gwneud i bawb deimlo’n ddigon cenfigennus o’r golygfeydd, roeddwn i’n barod i ddechrau’r cwrs.

Doeddwn i ddim wedi bod mewn dosbarth efo dysgwyr a siaradwyr eraill ers 2020, felly roedd yna dipyn bach o nerfusrwydd wrth gerdded i mewn. Wnaeth fy ofn a phryder ddiflannu heb i fi sylwi, roedd pawb mor gyfeillgar. Roedd y tiwtor efo dipyn o her ar ei ddwylo i drio stopio ni gyd rhag sgwrsio a rhannu straeon. Efallai fi oedd un o’r culprits gwaethaf – dw i wrth fy modd yn clywed hanes eraill, yn enwedig os ydyn nhw wedi dysgu Cymraeg.

Francesca Sciarrillo, trydydd o’r dde, yn Nant Gwrtheyrn

‘Hud arbennig’

Wnaeth rhywun ar y cwrs ddisgrifio Nant G fel lle llawn egni, efo hud arbennig. Rhoi’r egni mewn potel a mynd a fo adra oedd yr hyn oedd pawb isio’i wneud. Wrth i’r diwrnodau fynd heibio, efo llawer o ddysgu ac ysgrifennu, roeddwn i’n teimlo fy hyder yn tyfu mwy a mwy. Yn y diwedd, gadewais Nant G yn llawn egni i fynd ati i wella fy Nghymraeg, ond hefyd i drio annog eraill i ddysgu a defnyddio Cymraeg. Felly, wnaeth fy amser yna fy ysbrydoli i fynd amdani i wneud cais i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion.

Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach a dyma fi’n dysgu fy ngwers gyntaf fel tiwtor. Am brofiad! Er gwaethaf y nerfau, roedd genna’i wên o glust i glust trwy’r holl wers yn clywed pawb yn y dosbarth yn teimlo’n ddewr ac yn awyddus i ddysgu.

Dw i’n trio gwneud fy ngorau i osgoi’r imposter syndrome sydd yn fy llethu, ond dw i’n siŵr efo digon o amser, profiad ac ymarfer, mi fydda i’n fwy hyderus. Am rŵan, dw i jyst mor ddiolchgar am y cyfle a’r profiad, ac yn edrych ymlaen at weld hyder y dysgwyr yn tyfu mwy a mwy.

Felly, mae hi wedi bod yn wythnos fawr yn cyfarfod fy nosbarth newydd ac yn dysgu fy ngwers gyntaf. Wythnos fawr ond un i’w chofio. Esgusodwch fi, ond mae’n rhaid i mi fynd i baratoi’r wers nesaf. Hwyl am y tro!

Francesca Sciarrillo yn Nant Gwrtheyrn