Dych chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes?

Dych chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ?

Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd â chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul?

Mae’r gyfres newydd yma’n edrych ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw.

Y cyflwynydd teledu Nia Parry, sy’n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon, sydd Ar Blât yr wythnos hon…


Y peth mwyaf arbennig am fwyd o oedran cynnar oedd yr atgofion o gael yr amser yna yn y gegin efo mam yn ei baratoi o. Mae hynny’n dwyn atgofion hapusach o lawer na’i flas o.

Roedd fy mrawd, Dylan, a minnau wastad yn cael helpu mam i bobi Swiss rôls, a’r joban orau wastad oedd cael rowlio’r shwgwr arni pan oedd hi’n barod a thrimio pen y Swiss rôl i wneud y ddau ben yn llyfn.  Wrth gwrs roedden ni’n cael bwyta’r darnau oeddan ni wedi’u torri i ffwrdd tra roedd y rôl yn gynnes ac yn ffres o’r popty. Doedd dim byd gwell!

Dw i hefyd yn cofio gwneud taffi triog cartref efo mam a bod wrth fy modd yn gollwng y darnau i’r dŵr i checio a oedd y taffi’n barod. Ac oeddwn i a Dylan am y gorau i dorri’r taffi yn ddarnau efo morthwyl o garej dad ar ddiwedd y broses – hwnna oedd yr uchafbwynt bob tro.

Dw i’n cofio cysur coffi drwy lefrith mewn cwpan sbeshial efo wiwerod bach melyn arni yn tŷ nain Sally a taid Bob yn Llanfairpwll pan oeddwn i’n hogan fach wrth chwarae draffts efo nhw fin nos.  Byth ers hynny dw i’n caru coffi ac yn yfed llawer gormod ohono fo.

Dw i’n cofio mynd i bartïon plant a chasáu sgwosh oren ond yn rhy swil i ofyn am wydraid o ddŵr.  Dw i’n dal i gasáu sgwosh oren.

Erbyn hyn dw i’n deall bod mam yn casáu coginio ond, yn blentyn, doedd gen i ddim syniad o hynna.  Roeddwn i wrth fy modd efo’r defodau wythnosol – pasta efo saws tomato bob nos Sadwrn o flaen y teledu fel trît a mynydd o gaws wedi’i gratio am ei ben, cinio Dydd Sul, tatws pum munud ar nos Lun, a thecawê o Kwong Chow ar nos Wener os oeddan ni’n lwcus.

Yn ifanc iawn roeddwn i’n gwybod bod bwyta cig yn troi arna i a droeon dw i’n cofio llithro’r bîff neu’r cyw iâr neu’r twrci oddi ar fy mhlât a’i guddio dan bwrdd cyn mynd i’w gladdu yn yr ardd ar ôl y pryd bwyd!  Neu mi oeddwn i’n bargeinio efo mrawd – “Os wnei di fwyta fy nghig i mi gymra i dy lysiau di”. Mi wnes i stryglo i fwyta ambell ddarn o gig hyd nes mod i’n ddeg oed ac yna mi gesh i ganiatâd gan mam a dad i droi’n llysieuwraig a byth ers hynny dw i ddim wedi bwyta cig.

Dw i’n cofio cael cacennau pen-blwydd cartre wedi’u paratoi ar fy nghyfer gan mam yn blentyn a theimlo’n browd ohonyn nhw yn fy mhartis pen-blwydd.  Dw i wedi parhau gyda’r traddodiad yna o wneud cacen cartre i’r plant ar bob pen-blwydd hefyd – er nad ydw i’n gogyddes wych. Yr ymdrech sy’n cyfri.

Sŵp pys mam ydy’r pryd mwya’ blasus yn y byd. Dw i wedi trio ei wneud o gan ddefnyddio ei rysáit hi, ond dydy o byth ru’n fath.  Mae yna rywbeth am y ffordd mae hi’n ei baratoi o.  Mae’n mynd â fi nôl i ‘mhlentyndod.  Mae’n rhoi cysur i mi ac mae o’n fy ngwneud i’n hapus.

Cyri ydy fy hoff fwyd heb os.  Sbeisys a llysiau a pherlysiau ffres.  Fy mhryd delfrydol fyddai Tarka dal poeth mewn cwpan fetel ar ben mynydd yn edrych dros y môr.

Mae bwydydd yn gallu agor y drws i atgofion dydyn? Eich cludo i lefydd ac i adegau o’ch bywyd gyda gwahanol bobl. Dyma rai o fy rhai i…

Blasu bara garlleg am y tro cyntaf ar wyliau merlota yn 11 oed.

Cawl nwdls wrth ddringo mynydd Annapurna yn Nepal.

Yfed te afal gyda myfyrwyr a ffrindiau yn y Grand Bazaar tra oeddwn i’n byw yn Istanbul.

Bob bore Nadolig byddaf yn cael trît i frecwast – Caws a surop ar dost. Defod plentyndod sydd wedi parhau hyd heddiw.

Bob bore pen-blwydd y plant – byddaf yn paratoi crempogau ffres i frecwast iddyn nhw.

Caws ydy fy hoff beth yn y byd. Dw i’n caru caws o bob math. Wedi’i dostio, wedi’i gratio – ar dost neu efo cracyrs.  Mewn brechdan neu jyst ar ei ben ei hun yn syth o’r ffrij!  Dyma fy ngwendid i.  Dw i’n trio peidio ei brynu er mwyn osgoi ei fwyta. Ar ôl noson allan – caws ar dost a phanad o goffi cyn gwely – perffaith!

Mae gen i lyfrau rysait hyfryd gyda ffotograffau hardd a ryseitiau cyffrous llysieuol lliwgar iachus a blasus.  Ond gesh i lyfr Delia Smith gan fy rhieni i fynd i’r coleg ac mi fyswn i ar goll hebddo – at hwnnw dw i’n troi am y ‘basics’ – cacan sbynj, crymbl, Yorkshire puddings, sgons. Hen ffash ydw i yn y bôn!