Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

Mae rali fawr yn cael ei chynnal yn Wrecsam heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2)

Mae Rhestr Fer Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei chyhoeddi

Mae tri o bobl wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio Logan Mwangi

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gynnal Eurovision 2023 yng Nghymru


Cynnal rali fawr dros annibyniaeth yn Wrecsam

Mae rali fawr yn cael ei chynnal yn Wrecsam heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2). Mae’r rali yn galw am annibyniaeth i Gymru. Mae wedi cael ei threfnu gan AOUB Cymru [All Under One Banner Cymru] a’i chefnogi gan YesCymru.

Dyma fydd y rali gyntaf i gael ei chynnal ers un YesCymru yng Nghaernarfon yn 2019. Roedd tua 8,000 o bobl yn y rali yna.

Bydd llawer o sêr a phobl adnabyddus yn cymryd rhan yn y rali yn Wrecsam. Maen nhw’n cynnwys Dafydd Iwan, Pol Wong o ‘Indy Fest Wrecsam’, y bardd ac ymgyrchydd Evrah Rose, y Cynghorydd Plaid Cymru Carrie Harper, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, Dylan Lewis Rowlands o ‘Labour for Indy Wales’, a Tudur Owen.

Mae Tudur Owen yn ddigrifwra chyflwynydd radio. Bydd o’n annerch pobl yn y rali. Mae o wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn credu mai annibyniaeth ydy’r ffordd orau ymlaen. Ar un adeg doedd o ddim yn credu hynny ond mae o wedi newid ei feddwl erbyn hyn.

Dywedodd: “Y gwaith sydd gennym ni i’w wneud rŵan ydi siarad efo pobol yn rhesymol a dangos i bobol yng Nghymru bod annibyniaeth yn gwneud synnwyr.

“Achos er mwyn cael annibyniaeth mae’n rhaid i ni gael caniatâd, mae’n rhaid i ni gael mwyafrif. Ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i ni siarad efo pobol, siarad efo aelodau teulu, siarad efo pobol yn y gwaith ac ati a’u darbwyllonhw ei fod o’n gwneud synnwyr.”

Mae Tudur Owen yn dweud bod system wleidyddol “hen ffasiwn” y Deyrnas Unedig “ddim yn gweithio” erbyn hyn.

“Yr ateb ydi i wledydd y Deyrnas Unedig hawlio annibyniaeth, a dod yn wledydd hyderus o fewn Ewrop ac, wrth gwrs, sydd â chysylltiadau agos at ei gilydd.”

Mi fedrwch chi ddarllen y cyfweliad yn llawn yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.


Y pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn

Cyhoeddi Rhestr Fer Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynolcystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni wedi cael eu cyhoeddi.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd 18 o ddysgwyr eu cyfweld eleni. Y pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydy Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Dyma’r pedwar sydd ar y rhestr fer…

Stephen Bale

Mae Stephen yn byw ym Magwyr, Sir Fynwy. Mae’n dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol. Roedd yn gweithio fel gohebydd rygbi i’r papurau newydd yn Llundain a de Cymru. Mae e wedi ymddeol nawr.

Roedd e wedi dechrau dysgu Cymraeg ar ddiwedd y 1970au. Ond roedd bywyd yn brysur. Ar ôl ymddeol, cafodd gyfle i ddechrau eto. Roedd e wedi ymuno â dosbarth gyda Dysgu Cymraeg Gwent, ac wedi cyrraedd lefel Uwch.

Mae Stephen wrth ei fodd yn defnyddio’i Gymraeg ac yn annog eraill i siarad yr iaith.

Joe Healy

Mae Joe Healy yn dod o Wimbledon yn wreiddiol. Daeth i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a phenderfynu aros yn y brifddinas.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018. Mae’n siarad Cymraeg yn gymdeithasol ac yn y gwaith erbyn hyn.  Mae hefyd wedi cefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Ben Ó Ceallaigh

Mae Ben Ó Ceallaigh yn dod o Iwerddon yn wreiddiol. Doedd e ddim yn siarad dim Cymraeg pan ddaeth i Gymru. Ar ôl blwyddyn, roedd yn darlithio yn y Gymraeg.

Roedd e wedi ymuno â gwersi Dysgu Cymraeg yn ystod haf 2021. Mae wedi bod yn dysgu mewn dosbarth sy’n cyfarfod tair gwaith yr wythnos.

Mae’n mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn ei waith.

Sophie Tuckwood

Roedd Sophie Tuckwood wedi symud i Hwlffordd o Nottingham. Mae hi’n fam i ddau o blant bach.

Roedd hi wedi mynd i sesiynau Clwb Cwtsh a Chymraeg i Blant. Roedd Sophie wedi penderfynu cofrestru ar gwrs Cymraeg i’r Teulu gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro. Roedd hi eisiau i’w phlant gael addysg Gymraeg.

Mae dysgu Cymraeg wedi newid agwedd Sophie at ieithoedd. Erbyn hyn mae’n dilyn cwrs gradd meistr mewn Ieithyddiaeth. Mae hi hefyd yn dysgu pum dosbarth Mynediad yn lleol, a newydd orffen cwrs Dechrau Dysgu.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Pafiliwn am 3pm, ddydd Mercher 3 Awst.


Carcharu tri o bobl am oes am lofruddio Logan Mwangi

Mae tri o bobl wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio Logan Mwangi.

Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd mam a llystad Logan Mwangi, a bachgen 14 oed, eu dedfrydu i garchar am oes.

Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i gorff y bachgen 5 oed yn Afon Ogwr wrth ymyl ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf y llynedd.

Fe fydd mam Logan Mwangi, Angharad Williamson, 31, yn gorfod bod yn y carchar am 28 mlynedd. Mae ei phartner John Cole, 40, wedi ei ddedfrydu i o leiaf 29 mlynedd yn y carchar. Mae bachgen 14 oed, wedi ei ddedfrydu i o leiaf 15 mlynedd yn y carchar. Dyw hi ddim yn bosib enwi’r bachgen am resymau cyfreithiol.

Roedden nhw wedi ymosod ar Logan yn ei gartref cyn rhoi ei gorff yn yr afon.

Roedd Angharad Williamson wedi ffonio’r heddlu a dweud bod Logan wedi diflannu.

Roedd y tri wedi eu cael yn euog o lofruddio Logan Mwangi ym mis Ebrill eleni.


Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gynnal Eurovision 2023 yng Nghymru

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gynnal cystadleuaeth Eurovision 2023 yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r Deyrnas Unedig gynnal y gystadleuaeth flwyddyn nesaf. Nid yw’n bosib i Wcráin ei chynnal oherwydd ymosodiad Rwsia ar y wlad.  Roedd y Deyrnas Unedig wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud byddai cynnal y digwyddiad yng Nghymru yn rhoi hwb i economi’r wlad. Byddai’n annog pobol i ymweld â gwlad y gân, ac yn codi proffil Cymru ar draws y byd, meddai nhw.

Mae dinasoedd fel Birmingham, Brighton, Caeredin a Harrogate wedi cynnal y gystadleuaeth yn y gorffennol.

“Er ei bod hi’n drist na all Wcráin gynnal yr Eurovision Song Contest flwyddyn nesaf, mae hwn yn gyfle gwych i Gymru gynnal yr Eurovision,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y blaid.

“Fel gwlad y gân, alla’i ddim meddwl am unlle gwell i gynnal Eurovision – gadewch i ni groesawu’r byd i Gymru.”