Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Mae miloedd o bobl yn gwrthwynebu gostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya
  • Mae cynlluniau i drio agor rheilffordd rhwng Aberystwyth a’r de wedi cael eu croesawu
  • Bydd protest yn erbyn datblygiadau niwclear yn Nhrawsfynydd a Wylfa
  • Ydy Banksy wedi bod yn Aberteifi?

39,000 o bobol yn gwrthwynebu gostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya

Mae tua 39,000 o bobol wedi llofnodi deiseb ar-lein – maen nhw’n gwrthwynebu cynlluniau i ostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya ar strydoedd preswyl.

Mae disgwyl i’r newidiadau ddigwydd o Fedi 17, 2023.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yn helpu i achub bywydau, creu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac yn annog mwy o bobol i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae’r Llywodraeth yn dweud y bydd y newidiadau yn costio tua £33m.

Ond maen nhw’n dweud y bydd yn safio £58m dros y 30 mlynedd nesaf.

Yn ôl y Llywodraeth bydd llai o bobol angen defnyddio’r gwasanaethau brys a mynd i’r ysbyty.

‘Anhrefn’

Mae wyth ardal beilot wedi eu dewis i brofi’r terfynau cyflymder.

Maen nhw’n cynnwys Bwcle yn Sir y Fflint. Mae Adie Drury yn byw yn y dref. Hi sydd wedi dechrau’r ddeiseb.

“Mae’n achosi anhrefn, pobol yn osgoi’r ardal a phobol yn gorfod mynd ar ffyrdd eraill,” meddai.

“Dyw nifer o’r ffyrdd yma ddim yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya.

“Mae lorïau’n stryglo i fynd fyny bryniau mewn gêr mor isel ac mae cadw at gyflymder mor isel i lawr yr allt yn galed ar y brêcs.”

 80% yn cefnogi

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bobol beth oedden nhw’n meddwl am ostwng y terfyn cyflymder. Roedden nhw wedi cyhoeddi’r canlyniadau yn gynharach eleni.

Dangosodd fod 61% o oedolion Cymru yn hapus gyda’r terfyn cyflymder presennol ar gyfer eu stryd, tra bod tua 34% ddim.

Roedd yr arolwg hefyd yn dangos bod pedwar o bob pump o oedolion Cymru (80%) yn dweud y bydden nhw’n cefnogi terfyn cyflymder o 20 mya yn yr ardal maen nhw’n byw.

Roedd un o bob pump (20%) yn dweud na fydden nhw’n cefnogi hynny.

Ar hyn o bryd, dim ond 2.5% o ffyrdd Cymru sydd â therfyn cyflymder o 20mya.

O’r flwyddyn nesaf, mae disgwyl i hyn godi i 35%.


Croesawu cynlluniau i drio agor rheilffordd rhwng Aberystwyth a’r de

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i drio agor rheilffordd rhwng Aberystwyth a’r de.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n edrych mewn i’r mater erbyn 2025-27.

Traws Link Cymru ydy grŵp Ymgyrch Rheilffordd Gorllewin Cymru.

Maen nhw’n dweud bydd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn tynnu sylw at y ffaith bod angen cael coridor rheilffordd gogledd-de unwaith eto.

Byddai ei ail-agor yn helpu datblygiad economaidd y gorllewin, meddai’r Athro Mike Walker, cadeirydd y grŵp.

“Ddydd Sul yma, bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn agor yn Nhregaron yng Ngheredigion,” meddai.

“Ond, o ran seilwaith trafnidiaeth lleol, mae yna faterion sylweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw.

“Mae’n eironig fod Maes yr Eisteddfod ger llwybr yr hen reilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Cafodd y lein ei chau i deithwyr ym mis Chwefror 1965. Ers 2013 mae Traws Link Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros ei adfer.

“Mae’n drasiedi nad oes darpariaeth i deithwyr rheilffordd ar gael gan y byddai hyn wedi bod yn bwysig ar gyfer cludo pobl i Eisteddfod Tregaron.”


Protestio yn erbyn datblygiadau niwclear yn Nhrawsfynydd a Wylfa

Bydd pobol ifanc o CND Cymru yn gorymdeithio er mwyn protestio yn erbyn rhoi adweithyddion niwclear bach yn Nhrawsfynydd a Wylfa.

Ym mis Medi fe fyddan nhw’n cynnal gorymdaith am saith diwrnod. Bydd yn dechrau o Orsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd ar Fedi 4 ac yn dod i ben yn Wylfa ar Ynys Môn ar Fedi 10. Bydd rali’n cael ei chynnal hefyd.

Mae’r grŵp yn protestio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i roi Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach (SMRs) ar safle’r hen atomfeydd.

Maen nhw’n dweud bod hyn yn beryglus “i’r amgylchedd ac i bobol”.

Dr Bethan Siân Jones ydy Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru.

“Rydyn ni’n credu bod y Llywodraeth yn San Steffan yn gwyrddgalchu (greenwash) ynni niwclear. Maen nhw’n gwerthu ynni niwclear fel ynni glân, diogel, fel rhywbeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dyw e ddim yn ynni glân, mae’n fudr ofnadwy. Dyw e ddim yn ddiogel chwaith.”

Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r daith a does dim rhaid i bobol gerdded dros y saith niwrnod.

Dylai unrhyw un sydd eisiau cefnogi neu fynd ar yr orymdaith gysylltu â heddwch@cndcymru.org


Ydy Banksy wedi bod yn Aberteifi?

Mae’r arlunydd stryd Banksy yn enwog am ei furluniau sy’n ymddangos ar waliau dros nos.

Mae tref Port Talbot wedi cael un o furluniau Banksy, a rŵan mae’n edrych yn debyg fod ei waith wedi cyrraedd tref Aberteifi hefyd.

Mae’r llun yma gan Stuart Ladd yn dangos y lluniau, sy’n edrych yn debyg iawn i rai Banksy, ar wal bwyty Mecsicanaidd ‘El Salsa’ yn y dref.

Maen nhw’n dathlu dau gerddor enwog o’r dref, sef Richard a Wyn Jones o’r band Ail Symudiad, a David R Edwards neu ‘Dave Datblygu’.

Richard a Wyn Jones oedd wedi dechrau cwmni recordiau Fflach. Roedd y tri wedi marw y llynedd.

Y cwestiwn mawr mae pobol leol yn gofyn ydy, ydy Banksy wedi bod yn Aberteifi? Ac ydy o wedi gwneud y darluniau ar wal El Salsa?

Beth dych chi’n meddwl?