Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

Mae ffrae wedi bod am adael i Jonathan Edwards ddod yn aelod o Blaid Cymru eto.

Cadeirydd Plaid Cymru’n ymddiswyddo  yn sgil penderfyniad am aelodaeth Jonathan Edwards.

Mae arbenigwr yn dweud bod y tywydd poeth iawn oherwydd newid hinsawdd.

‘Mori’ gan Ffion Dafis ydy Llyfr y Flwyddyn 2022.

Mae pobol yng Ngheredigion yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.


Ffrae am adael i Jonathan Edwards ddod yn aelod o Blaid Cymru eto

Mae ffrae wedi dechrau ym Mhlaid Cymru. Dydy llawer o bobol ddim yn hapus bod yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi cael dod yn aelod o’r blaid unwaith eto. Mae Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, wedi ymddiswyddo.

Jonathan Edwards ydy Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin. Roedd o wedi cael ei wahardd o’r blaid am 12 mis ym mis Mai 2020. Roedd o wedi cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod.

Ers y rhybudd, mae Jonathan Edwards wedi bod yn Aelod Annibynnol yn San Steffan.

Mae Plaid Cymru yn y broses o benderfynu os fydd yn cael eistedd dros Blaid Cymru eto.

Mae Panel Disgyblu Plaid Cymru wedi cytuno i’w dderbyn fel aelod eto.

Dirprwy Gadeirydd Plaid Cymru, Beca Brown, fydd yn cymryd lle Alun Ffred Jones fel cadeirydd dros dro. Mae hi’n gynghorydd yn Llanrug yng Ngwynedd.

Bydd etholiad arall yng Nghynhadledd Flynyddol y blaid ym mis hydref i ddewis cadeirydd newydd.

Ar Twitter, dywedodd Sara Huws, un o golofnwyr golwg, y “dylai pawb gael ail gyfle i fod yn rhan o fywyd sifil ar ôl troseddu” ond dywedodd fod y penderfyniad i wneud Jonathan Edwards yn aelod eto “mor annoeth”.

Mae Sara Huws yn dweud y bydd yn ei gwneud hi’n anodd i’r blaid wneud polisïau sy’n cefnogi dioddefwyr trais domestig.


Tystiolaeth bod newid hinsawdd yn achosi’r tywydd crasboeth, meddai arbenigwr

Mae arbenigwr wedi dweud bod tystiolaeth yn dangos bod newid hinsawdd yn achosi’r tywydd crasboeth.

Roedd tymheredd o dros 40 gradd selsiws wedi cael ei gofnodi yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon. Roedd hynny o gwmpas Heathrow yn Llundain.

Roedd y tymheredd uchaf i gael ei gofnodi yng Nghymru – sef 37.1 gradd selsiws – ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint.

Mae’r Athro Siwan Davies yn ddarlithydd yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe. Mae hi’n arbenigo mewn newidiadau sydyn yn yr hinsawdd.

Mae hi’n dweud os yw allyriadau carbon yn dal i fod yn uchel neu’n uchel iawn, mae hi’n “debygol iawn” y bydd tywydd poeth eithafol yn digwydd bob tair blynedd.

“Mae’r dystiolaeth yn glir bod newid hinsawdd yn achosi i’r tywydd eithafol yma ddigwydd yn llawer mwy aml na beth rydyn ni wedi’i weld yn y gorffennol,” meddai.

Os ydyn ni’n gallu cadw allyriadau carbon yn isel neu’n isel iawn, fydd tywydd eithafol fel hyn ddim yn digwydd mor aml, meddai Siwan Davies.

Mae hi’n dweud bod rhaid i ni addasu i’r tywydd poeth yma hefyd. Mae angen addasu adeiladau a chael mwy o ardaloedd gwyrdd mewn trefi i gadw’r tymheredd i lawr.

Mae Siwan Davies hefyd yn dweud bod angen i bobl fod yn fwy ymwybodol am newid hinsawdd.


‘Mori’ gan Ffion Dafis yw Llyfr y Flwyddyn 2022

Ffion Dafis sydd wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Mae hi wedi ennill gyda’i nofel Mori (Y Lolfa). Roedd y beirniaid wedi’i galw’n “gampwaith”.

Casgliad Y Pump oedd wedi ennill Gwobr Barn y Bobl golwg360. Darllenwyr Cymru oedd wedi pleidleisio am hyn.

Mae’r deg awdur yn rhannu’r wobr sef Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat). Mae Y Pump yn brosiect i roi llwyfan i awduron newydd.

Mori ydy nofel gyntaf Ffion Dafis, sy’n actores a chyflwynydd. Roedd hi wedi ysgrifennu ei chyfrol gyntaf Syllu ar Walia’ (Y Lolfa) yn 2017.

Mae Ffion Dafis yn dod o Fangor yn wreiddiol. Mae hi wedi actio yn y gyfres deledu Amdani a Byw Celwydd ar S4C.

“Nid cymeriad hawdd ei hoffi ydi Mori ar adegau, a dwi mor falch fod y panel wedi gweld ei phrydferthwch hi,” meddai Ffion.

“Dydi hi ddim yn nofel gonfensiynol – mi oeddwn i’n trio creu cymeriad anghonfensiynol a dwi mor ddiolchgar fod y panel wedi gwerthfawrogi beth roeddwn i wedi ei greu.”

Mae hi’n derbyn gwobr o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd enillwyr y Gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi nos Wener, Gorffennaf 29, ar y rhaglen The Arts Show ar BBC Radio Wales.

Dyma’r llyfrau sydd wedi ennill y categorïau a’r Brif Wobr yn y Gymraeg.

Categori Barddoniaeth: merch y llyn gan Grug Muse (Cyhoeddiadau’r Stamp)

Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor: Mori gan Ffion Dafis (Y Lolfa)

Categori Ffeithiol Greadigol: Paid â Bod Ofn gan Non Parry (Y Lolfa)

Categori Plant a Phobl Ifanc: Y Pump gan awduron amrywiol (Y Lolfa)

Gwobr Barn y Bobl golwg360: Y Pump gan awduron amrywiol (Y Lolfa)


Pisgah yng Ngheredigion

Pobl yng Ngheredigion yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron

Mae pobol yng Ngheredigion wedi bod yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Eisteddfod eleni yn dod i Dregaron o Orffennaf 30 i Awst 6.

Mae llawer o luniau wedi bod ar wefannau newyddion o waith addurno lliwgar pobol Ceredigion.

Mae arwyddion yn croesawu’r Eisteddfod i’w gweld ar hyd y sir erbyn hyn.

Mae pentrefi fel Llanddewi Brefi a Lledrod, a Bow Street, Pontrhydfendigaid ac Aberaeron wedi gwneud ymdrech fawr.

Mae pentref bach Pisgah tua 20 milltir o safle Maes yr Eisteddfod yn Nhregaron. Mae trigolion Pisgah eisiau rhoi croeso mawr i’r ŵyl.

Ann Raeburn ydy perchennog tafarn yr Halfway Inn yn Pisgah. Roedd hi wedi galw cyfarfod i annog y pentrefwyr i addurno’u cartrefi.

“Fel cymuned, roedd hi’n braf gweld gymaint o drigolion Pisgah yn dod at ei gilydd a chydweithio i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2022 i Geredigion,” meddai Ann Raeburn.

“Roedd rhai o’r trigolion yn newydd i’r ardal a heb gael y cyfle i gwrdd â gweddill trigolion Pisgah, felly roedd hi’n braf gweld pobol yn dod i adnabod ei gilydd a chael sbort yr un pryd.”