Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Boris Johnson yn aros yn Brif Weinidog
  • Bydd Mark Drakeford yn cael ei urddo i Orsedd Cymru.
  • Cyhoeddi mesurau newydd i ddelio gydag ail gartrefi.
  • Mae siop lyfrau Gymraeg Caernarfon yn dathlu 20 mlynedd.
  • Mae Gŵyl Tawe’n gobeithio “cyflwyno pobol newydd i’r iaith Gymraeg”

Boris Johnson yn aros yn Brif Weinidog

Mae Boris Johnson yn dweud ei fod e’n mynd i aros yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig tan bod arweinydd newydd yn cael ei benodi.

Dywedodd ei fod e eisiau aros yn Brif Weinidog, ond y dylai’r broses o ddod o hyd i arweinydd newydd ddechrau nawr.

Bydd yr amserlen i wneud hynny’n cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf.

“Mae’n amlwg nawr mai ewyllys y Blaid Geidwadol seneddol yw penodi arweinydd newydd i’r blaid, ac felly, prif weinidog newydd,” meddai Boris Johnson.

“Bydd ein system wych yn cynhyrchu arweinydd arall, a bydda i’n rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gallaf i’r arweinydd newydd.”

“Er bod pethau’n ymddangos yn dywyll nawr, mae ein dyfodol gyda’n gilydd yn euraid.

“Rwyf am i chi wybod pa mor drist ydw i i fod yn rhoi’r gorau i’r swydd orau yn y byd.

“Ond dyna sut mae hi’n mynd weithiau.”

Ond mae rhai o’r gwrthbleidiau eisiau gweld Boris Johnson yn “mynd ar unwaith”.

“Cer nawr,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, yn bygwth galw pleidlais hyder os nad yw Boris Johnson yn gadael Downing Street.

“Digon yw digon,” meddai.


Mark Drakeford yn cael ei urddo i Orsedd Cymru

Bydd Prif Weinidog Cymru yn cael ei urddo i Orsedd Cymru.

Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi y bydd Mark Drakeford yn cael ei urddo eleni ar ran holl weithwyr allweddol Cymru.

Bydd yn cael ei urddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar Awst 5.

Mae Archdderwydd Gorsedd Cymru, Myrddin ap Dafydd, yn dweud ei bod hi’n bleser bod y Prif Weinidog wedi derbyn yr anrhydedd i ymuno â’r Orsedd.

“Mae cyfraniad ein gweithwyr allweddol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn aruthrol. Rydyn ni yng Ngorsedd Cymru am ddangos ein gwerthfawrogiad a diolch i bob un fu’n gweithio mor galed dros gyfnod y pandemig,” meddai.

Dywedodd Myrddin ap Dafydd y bydd yr Orsedd yn diolch i Mark Drakeford am ei arweiniad drwy Covid-19 a’r cyfnodau clo.

Mae Mark Drakeford yn dweud ei bod hi’n “fraint anhygoel” derbyn yr anrhydedd ar ran holl weithwyr allweddol Cymru.

“Fe wnaethon nhw gymaint i’n helpu ni gyd yn ystod y pandemig,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n diolch iddyn nhw am eu gwaith arwrol yn ystod cyfnod caled iawn i bawb.”


Cyhoeddi mesurau newydd i ddelio gydag ail gartrefi

Mae mesurau i ddelio gydag ail gartrefi yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi.

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi cyhoeddi’r mesurau.

Mae’r mesurau yn cynnwys newidiadau cynllunio a threth. Mae cynlluniau hefyd i newid y ffordd mae llety gwyliau yn cael eu trwyddedu.

Mae Mark Drakeford ac Adam Price eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau lleol.

Maen nhw’n dweud bod y cynlluniau’n “radical”.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • Rhoi cap ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau;
  • Dod â mwy o dai dan berchnogaeth gyffredin;
  • Newid y ffordd mae tai gwyliau yn cael eu trwyddedu;
  • Rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol. Byddan nhw’n gallu codi premiymau treth cyngor a chodi trethi ail gartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw am godi trethi uwch ar lety gwyliau os dydyn nhw ddim yn cael eu rhentu am fwy na 6 mis y flwyddyn.

Mae Mark Drakeford yn dweud bod twristiaeth yn bwysig iawn i economi Cymru “ond nid yw cael gormod o dai haf ac ail gartrefi, sy’n wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, yn creu cymunedau lleol iach. Maen nhw’n prisio pobol allan o’r farchnad dai leol.”

“Nid oes un ateb syml i’r problemau hyn,” meddai Mark Drakeford.

Ond nid yw cyrff twristiaeth a lletygarwch, a’r Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno gyda’r cynlluniau.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hyn yn ffordd o gyflwyno Treth Dwristiaeth.

Maen nhw’n dweud bydd hyn yn “dinistrio’r sector twristiaeth yng Nghymru” ac yn cael gwared ar nifer fawr o swyddi.


Siop lyfrau Caernarfon yn dathlu 20 mlynedd

Mae siop lyfrau yng Nghaernarfon wedi bod yn dathlu bod ar agor ers 20 mlynedd.

Eirian James ydy perchennog Palas Print. Mae hi’n dweud mai cefnogaeth pobol Caernarfon a’r ardal sydd wedi helpu’r siop i aros ar agor mor hir.

“Mae pobol wedi bod yn gefnogol iawn i’r siop, ac rydyn ni’n lwcus iawn i’w cael nhw,” meddai Eirian.

Roedd llawer o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu i ddathlu’r pen-blwydd, fel gigs yn yr ardd.

Cafodd Eirian y syniad o gynnal gigs yn yr ardd yn ystod haf cyntaf y pandemig. Roedd hi eisiau helpu cerddorion lleol.

I ddathlu’r pen-blwydd mae clwb crosio lleol yn cyfarfod yno eto am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

“Rydyn ni’n croesawu Clwb Ar y Gweill yn ôl, sef clwb gweu a chrosio. Maen nhw wedi bod yn cyfarfod yn y siop am sawl blwyddyn ond roedd wedi gorfod stopio oherwydd Covid,” meddai Eirian.

Mae Palas Print am gynnal digwyddiadau drwy’r flwyddyn i ddathlu.

“Be dw i am wneud ydy cyfres o ddigwyddiadau gydag awduron, pethau rydyn ni wedi’u gwneud o’r blaen a phethau newydd,” meddai Eirian.


Gŵyl Tawe’n gobeithio “cyflwyno pobol newydd i’r iaith Gymraeg”

Mae trefnwyr Gŵyl Tawe yn dweud eu bod nhw’n gobeithio “cyflwyno pobol newydd i’r iaith Gymraeg”.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn nhafarn y Railway Inn yng Nghilâ heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 9).

Fe fydd y bandiau Los Blancos, Parisa Fouladi, Y Dail ac Ynys yn perfformio yno.

Mae’r Railway Inn yn Nyffryn Clun ar ymyl Penrhyn Gŵyr. Mae’n agos i ganol dinas Abertawe. Mae cwrw lleol ar gael, a phabell awyr agored ar gyfer cerddoriaeth fyw.

Mae’r digwyddiad  am ddim. Mae’r dafarn ar agor am 12 o’r gloch, gyda cherddoriaeth rhwng 1yp a 7yh.

Mae’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe a gyda chefnogaeth y cynllun Haf o Hwyl. Bydd cyfle i bobol 18 i 25 oed ddysgu mwy am sut maen nhw’n gallu dysgu Cymraeg am ddim ym mis Medi.

Mae Tomos Jones o Fenter Iaith Abertawe yn dweud bod yr ŵyl yn gyfle da i bobl gymdeithasu.

“Mae cerddoriaeth hefyd cyflwyno pobol newydd i’r iaith Gymraeg,” meddai.