Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Joe Healy o Gaerdydd yw Dysgwr y Flwyddyn eleni
  • Enillwyr Eisteddfod yr Urdd yn dod yn aelodau o’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron
  • Bydd cael miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn “newid yr iaith” meddai academydd
  • Undeb ffermwyr yn beirniadu defnyddio llaeth ceirch mewn smwddis ar stondin yr Eisteddfod

Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn

Joe Healy o Gaerdydd yw Dysgwr y Flwyddyn eleni

Joe Healy o Gaerdydd sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. Cafodd ei enw ei gyhoeddi mewn seremoni yn y Pafiliwn ddydd Mercher (Awst 3).

Mae Joe Healy yn dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol. Daeth i Gaerdydd i astudio Sbaeneg yn y brifysgol a phenderfynu aros yn y brifddinas.  Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018. Mae’n rhugl erbyn hyn. Mae’n defnyddio’r iaith yn gymdeithasol ac yn y gwaith.  Mae hefyd wedi cefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Mae Joe’n angerddol dros y Gymraeg a Chymru.  Mae diddordeb gyda fe hefyd mewn gwleidyddiaeth.

Roedd Joe yn emosiynol iawn pan gafodd ei enw ei gyhoeddi. Roedd e’n dweud bod e ddim wedi disgwyl ennill am fod safon y tri arall mor dda.

Dywedodd y beirniaid bod y safon eleni yn uchel iawn.

Y beirniaid yn y gystadleuaeth oedd Cyril Jones, Elwyn Hughes a Geraint Lloyd.

Mae Joe yn cael tlws arbennig a £300 gan Seiri Rhyddion Talaith Gorllewin Cymru.  Bydd Joe hefyd yn cael bod yn aelod o’r Orsedd.

Roedd 18 o ddysgwyr yn y ras y tro yma gyda phedwar yn cyrraedd y rownd derfynol. Y tri arall oedd Stephen Bale o Fagwyr, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan Merched y Wawr.


Enillwyr eraill yr Eisteddfod

Y bardd Esyllt Maelor oedd enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae hi’n dod o Morfa Nefyn yn wreiddiol.

Llŷr Gwyn Lewis enillodd y Gadair. Mae’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol ac rwan yn byw yng Nghaerdydd.

Meinir Pierce Jones oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. Mae hi’n dod o Nefyn, Pen Llŷn yn wreiddiol.

Gruffydd Siôn Ywain, o Ddolgellau, enillodd Medal Ddrama yr Eisteddfod.

Edward Rhys-Harry oedd enillydd Tlws y Cerddor. Mae’n dod o Benclawdd yn Abertawe’n wreiddiol ac yn byw yn Llundain.

Sioned Erin Hughes oedd wedi ennill y Fedal Ryddiaith. Mae hi’n dod o Foduan yng Ngwynedd.

Y cerflunydd Natalia Dias o Gaerdydd  oedd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod. Mae hi’n dod o Bortiwgal yn wreiddiol, ac roedd hi’n fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Gâr.


Francesca Sciarrillo yn y Wisg Werdd cyn cael ei hurddo i’r Orsedd

Enillwyr Eisteddfod yr Urdd yn dod yn aelodau o’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cafodd 18 o enillwyr Eisteddfod yr Urdd eu hurddo’n aelodau o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron ddydd Llun (Awst 1).

Roedden nhw wedi cael y Wisg Werdd ar ôl ennill rhai o brif gystadlaethau’r Urdd. Roedden nhw’n cynnwys Eisteddfod yr Urdd ym Mrycheiniog a Maesyfed (2018), Caerdydd (2019), Eisteddfod T (2020 a 2021), ac Eisteddfod 2020-21 a gafodd ei chanslo oherwydd y pandemig.

Mae enillwyr y Goron, y Gadair, y Fedal Gyfansoddi, Medal y Dysgwyr a’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn gallu derbyn y Wisg Werdd yn yr Orsedd. Mae’r rhai sydd wedi ennill cystadlaethau celf a chrefft a thechnoleg hefyd yn cael y Wisg Werdd.

Un o’r 18 oedd yn cael ei hurddo oedd colofnydd Lingo360, Francesca Sciarrillo. Mae hi’n dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol a nawr yn byw wrth ymyl Rhuthun yn Sir Ddinbych. Roedd hi wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2019.

Siân Eirian ydy Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd. Mae hi wedi llongyfarch yr aelodau sydd wedi derbyn eu lle yn yr Orsedd eleni.

“Mae’r Wisg Werdd yn symbol o gyfraniad i gelfyddydau a diwylliant Cymru; braint ac anrhydedd haeddiannol iawn i’w cyflwyno i brif enillwyr Eisteddfod yr Urdd.”

Cafodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei dderbyn i’r Orsedd ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron ddydd Gwener (Awst 5).


Bydd cael miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn “newid yr iaith” meddai academydd

Mae academydd wedi dweud y bydd yr iaith yn newid os ydyn ni am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ac mae Dr Dylan Foster Evans yn dweud y dylen ni fod yn hapus am hynny.

Roedd Dylan Foster Evans yn siarad yn ystod sgwrs ‘Cymraeg y Dyfodol’ ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Mae e’n dweud bod safonau’r iaith yn newid drwy’r amser.

Cadeirydd y sesiwn oedd y cyflwynydd Sean Fletcher. Roedd e wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gaerdydd.

Roedd Sean Fletcher wedi gofyn os oes peryg i safonau’r Gymraeg gael eu heffeithio os ydy pobol yn defnyddio geiriau Saesneg yn eu Cymraeg.

“Tase fi’n defnyddio lot o eiriau Saesneg, oes problem bod yr iaith yn mynd i gael ei watered-down, neu weakened, achos bod y Saesneg yn cael ei defnyddio mwy yn y Gymraeg?”

Dywedodd Dylan Foster Evans fod “safonau’n newid dros amser beth bynnag, maen nhw’n newid yn gyson. Does yna ddim pwrpas meddwl am gael miliwn o siaradwyr heb dderbyn yn llawen y bydd hynny’n newid yr iaith.

“Mi fydd yr iaith yn newid erbyn 2050, ac os nad ydy hi’n newid mae hynny’n rhywbeth drwg iawn.”

Mae Gwenllian Carr yn ymchwilio i sut mae pobol yn meddwl am yr iaith ac roedd hi’n rhan o’r panel. Mae hi’n dweud fod yr iaith yn rhywbeth sy’n newid drwy’r amser.

“Mae safon yn bwysig er mwyn datblygu’r iaith mewn ffordd, ond mae hi’n fwy pwysig bod hi’n iaith mae pobol yn ei defnyddio, yn iaith mae pobol yn ei siarad. Mae hynna fwy pwysig nag unrhyw beth arall,” meddai.

“Os nad ydyn ni’n siarad Cymraeg, does yna ddim dyfodol  i’r iaith. Os nad ydyn ni’n defnyddio Cymraeg, os nad oes gennym ni’r hyder i siarad Cymraeg dydy’r iaith ddim yn mynd i bara am ddim amser bron.”


Undeb ffermwyr yn beirniadu defnyddio llaeth ceirch mewn smwddis ar stondin Eisteddfod

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi beirniadu Cyngor Sir Ceredigion. Maen nhw eisiau gwybod pam fod y Cyngor yn defnyddio llaeth ceirch wedi’i fewnforio mewn smwddis ar eu stondin eisteddfod.

Maen nhw’n dweud dylen nhw ddefnyddio llaeth gwartheg lleol.

Mae’r undeb wedi gofyn i’r Cyngor ddweud pam roedden nhw wedi gwneud y penderfyniad yma.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud eu bod nhw wedi defnyddio llaeth ceirch am fod pryderon am gadw llaeth gwartheg ar y tymheredd cywir.

Ond mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts wedi dweud bod “cwestiynau mawr i’w hateb” am hyn.

‘Llaeth go iawn’

Mae Glyn Roberts yn dweud bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi defnyddio llaeth go iawn ar stondinau mewn sioeau a digwyddiadau ers amser hir. Roedden nhw wedi defnyddio llaeth yn y Sioe Frenhinol “pan oedd y tymheredd yn uwch nag erioed,” meddai.

“Does dim byd anghyffredin am y tywydd a’r tymheredd yr wythnos hon, ac mae’r cwestiwn dal yn sefyll ynglŷn â pham bod Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu hyrwyddo llaeth ceirch sydd wedi ei fewnforio o Ffrainc yn hytrach na llaeth lleol o’r safon uchaf.

“Ceredigion yw un o’r siroedd enwocaf yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu llaeth go iawn ac mae’r diwydiant yn gwneud cyfraniad mawr iawn i economi a diwylliant y sir.”

Dywedodd bod llawer o bobol o ffermydd llaeth a phobol sy’n gweithio yn y diwydiant yn teimlo’n “siomedig” bod y Cyngor wedi dewis llaeth ceirch o Ffrainc yn lle llaeth lleol.