Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Ymchwiliad ar ôl gwrthod gadael i ysgol Gymraeg ganu yn Gymraeg mewn gŵyl.
  • Cwyno am beiriant talu i barcio: “y cyfan yn y blydi Gymraeg”.
  • Gŵyl Ryng-geltaidd An Orient yn gyfle i Gymru ‘ddangos ei diwylliant’.
  • Ffilm Gymraeg yn cael ei dangos mewn sinemâu am y tro cyntaf ers 2019.

Ysgol Llwynderw

Gwrthod gadael i ysgol Gymraeg ganu yn Gymraeg mewn gŵyl

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl y penderfyniad i wrthod gadael i ysgol Gymraeg ganu yn Gymraeg.

Roedd disgwyl i saith ysgol ganu gyda’i gilydd mewn gŵyl gymunedol yn y Mwmbwls yn Abertawe.

Ond roedd Ysgol Llwynderw wedi cael llythyr gan gynghorydd yn dweud dylen nhw ganu yn Saesneg. Mae Ysgol Llwynderw yn un o ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal.

Mae’r Cynghorydd Rob Marshall yn gerddor lleol ac yn feirniad eisteddfodol.

Roedd e wedi dweud ei fod wedi clywed disgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr yn siarad Saesneg gyda’i gilydd. Oherwydd hyn doedd y cynghorydd ddim yn gweld pam bod angen canu yn Gymraeg mewn cymuned lle mai Saesneg yw’r brif iaith.

Nawr mae pennaeth Ysgol Llwynderw wedi gwneud cwyn am ei sylwadau. Bydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls hefyd yn trafod y mater. Fe allen nhw benderfynu ymddiheuro wrth yr ysgol a symud y cynghorydd o’i rôl yn is-gadeirydd y pwyllgor diwylliant.


Cwyno am beiriant talu i barcio: “y cyfan yn y blydi Gymraeg”

Mae llawer o bobol wedi bod yn cwyno am beiriant parcio yn Abertawe. Roedden nhw’n credu bod y peiriant yn Gymraeg yn unig.

Dywedodd Paul Sambrook ar Facebook ei fod wedi bod i Fae Caswell ddydd Sul, Awst 14.

“Mae’r peiriant talu ar gyfer parcio ceir yn mynd yn awtomatig i’r Gymraeg. Roedd nifer o bobol yn rhoi’r gorau iddi gan eu bod nhw’n credu nad oedd y peiriant yn gweithio. Doedden nhw’n methu gwneud y taliad gyda cherdyn gan nad oedden nhw’n deall y cyfarwyddiadau,” meddai.

Ond mae’n debyg eu bod nhw i gyd yn gwneud rhywbeth o’i le.

“Doedd neb ohonyn nhw’n sylweddoli fod yna fotwm ‘newid iaith’,” meddai.

“Doedd gen i ddim problem ond fe wnaeth dynes y tu ôl i fi ddweud fod “y cyfan yn y blydi Gymraeg”.

“Doedd gan ei merch, oedd tua 13 oed, ddim problem ac roedd hi’n gallu darllen y Gymraeg a phwyso’r botwm newid iaith drosti.”

Yn ôl Paul Sambrook, mae’r digwyddiad yn dangos pam ei fod yn bwysig hybu’r Gymraeg. Ond mae’n dweud bod angen cyfarwyddiadau clir am sut i newid i Saesneg.

Roedd digwyddiad tebyg yn y Rhyl, lle’r oedd pobol yn ciwio wrth ymyl peiriant talu Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd un person dienw fod un gyrrwr wedi rhoi’r gorau i drio talu, a dweud “Pam fod y cyfarwyddiadau ddim ond yn Gymraeg? Dydy llawer o bobol yn y Rhyl ddim yn siarad Cymraeg”.

Mae’r Cyngor yn dweud eu bod nhw’n edrych mewn i’r mater. Maen nhw’n atgoffa pobol fod dau faes parcio arall i’w defnyddio a’u bod yn gallu defnyddio ffôn i dalu hefyd.

Maen nhw hefyd yn dweud bod modd pwyso botwm ar y peiriant talu er mwyn newid yr iaith.


Gwilym Bowen Rhys a Patrick Rimes yng Ngŵyl Ryng-geltaidd An Orient

‘Gŵyl Ryng-geltaidd An Orient yn gyfle i Gymru ‘ddangos ei diwylliant

Mae Gŵyl Ryng-geltaidd An Orient yn Llydaw yn gyfle i Gymru “ddangos ein diwylliant i gynulleidfa eang iawn”.

Dyna beth mae’r cerddor Gwilym Bowen Rhys yn dweud. Roedd o wedi bod yn perfformio yno eleni.

Roedd Gwilym Bowen Rhys yn un o’r artistiaid o Gymru oedd yn canu yn yr ŵyl.

Roedd o wedi canu ar ei ben ei hun, a hefyd wedi canu efo cantores o Lydaw.  Roedd yn rhan o brosiect lle’r oedd tri artist o Gymru’n cael eu paru â thri artist o Lydaw.

Maen nhw’n gobeithio bydd hyn yn arwain at fwy o bartneriaethau cerddorol a diwylliannol rhwng Cymru a Llydaw yn y dyfodol.

“Fues i’n cyd-ganu â chantores o’r enw Nolwenn Korbell, sydd efo cysylltiad efo Cymru – roedd hi’n arfer canu efo Bob Delyn a’r Ebillion. Mae hi wedi treulio deng mlynedd yng Nghymru,” meddai Gwilym Bowen Rhys.

Roedd Only Boys Aloud, NoGood Boyo, Alffa, Vrï, Lily Beau ac Avanc o Gymru yn perfformio yn yr ŵyl hefyd eleni.

“Mae hi wastad yn bleser cael mynd yn ôl yno,” meddai Gwilym Bowen Rhys.

“Fel arfer, mae’r ŵyl yn digwydd yr un pryd â’r Eisteddfod felly dim bob blwyddyn dw i’n teimlo fel fy mod i’n gallu mynd ond eleni roedd hi wythnos ar ôl. Mae’n neis gallu dal y ddau.

“Mae hi’n ŵyl sydd wedi bod yn mynd ers hanner can mlynedd bellach. Mae hi i gyd yn ymwneud â’r gwledydd Celtaidd a cherddoriaeth y gwledydd Celtaidd.

“Mae yna gannoedd ar filoedd o bobol yn mynd felly mae o’n gyfle i ni arddangos ein diwylliant i gynulleidfa eang iawn.”


Annes Elwy yn Gwledd

Ffilm Gymraeg yn cael ei dangos mewn sinemâu am y tro cyntaf ers 2019

Mae ffilm Gymraeg wedi cael ei dangos mewn sinemâu am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Mae Gwledd yn ffilm arswyd sydd wedi’i gosod yng nghanolbarth Cymru. Mae’n cynnwys yr actorion Nia Roberts, Annes Elwy, Julian Lewis Jones, a Steffan Cennydd.

Annes Elwy sy’n actio’r cymeriad Cadi. Mae hi’n ferch ifanc sydd yn cael swydd fel gweinydd i deulu cyfoethog yng nghefn gwlad Cymru.

Mae’r ffilm wedi cael ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven-Jones. Bydd hi’n cael ei dangos mewn tua 20 o sinemâu ar draws Cymru drwy Picturehouse Entertainment.

Yn ôl y cynhyrchwyr, mae’r ffilm yncyflwyno y Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd.

Mae Gwledd wedi cael ei chreu yn Gymraeg yn unig. Mae’n cael ei chefnogi i gael ei rhyddhau gan Gwnaethpwyd yng Nghymru yng Nghanolfan Ffilm Cymru.