“Ddarllenydd, heddiw llanwer dy fyd a haf o hyder” – Eurig Salisbury

Penwythnos diwethaf, fues i’n pori trwy fy silffoedd llyfrau yn y gobaith o ffeindio llyfr hafaidd i fwynhau yn yr haul. Fel nifer o Gymry, dw i hefyd yn mynd ar fy ngwyliau i Dregaron wythnos nesaf, ac yn chwilio am lyfrau i roi yn fy siwtces. Weithiau, dw i’n dod yn ôl at lyfrau penodol yn ystod adegau gwahanol o’r flwyddyn – er enghraifft, dros yr haf – ond am ryw reswm, doedd dim byd yn tynnu fy sylw. Felly penderfynais bicio i Ruthun i un o fy hoff siopau lleol. Dw i’n siŵr bod ‘Elfair’ yn siop ac enw cyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n byw yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ac i unrhyw un sydd ddim wedi bod o’r blaen, mae wir yn werth gwneud trip os ydych chi yn ardal Rhuthun dros yr haf.

Y llyfr Haf o Hyder

Roedd yna dipyn o ddewis yn Elfair, ac roedd rhaid i mi ddangos ychydig bach o hunanreolaeth. Ar ôl pori trwy’r silffoedd llyfrau am sbel, wnes i ddarganfod copi o Haf o Hyder. Dyma gasgliad bach o gerddi, straeon byrion a chaneuon gan amrywiaeth o awduron o bob rhan o Gymru. Dw i’n gwybod fy mod i’n hwyr i’r parti – wnaeth y llyfr ddod allan y llynedd fel rhan o’r Eisteddfod Amgen – ond gwell hwyr na hwyrach! Efo teitl fel Haf o Hyder, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi llwyddo i ddod o hyd i’r union fath o lyfr roeddwn i wedi bod yn chwilio amdano. Erbyn i fi adael y siop, roedd y cymylau glaw yn llenwi’r awyr, felly roedd rhaid i mi ffeindio rhywle arall tu fewn i fwynhau llyfr a phaned.

Fel arfer, mi fyswn i wedi mynd yn syth i’r siop goffi leol ond cyn gwneud hynny, wnaeth fy nghariad fy mherswadio i fynd efo fo i Wrecsam. Roedd o eisiau mynd i Waterstones i drio dod o hyd i gopi o lyfr newydd Werner Herzog. Wnaeth o ddim cymryd llawer i berswadio fi i fynd. Doedd ganddyn nhw ddim copi o’r llyfr yn anffodus, ond mae’n amhosib i fi deimlo bod mynd i siop lyfrau yn wastraff amser, felly roeddwn i’n hapus i barhau ar fy nhaith i ffeindio llyfrau hafaidd. Roedden nhw hefyd yn chwarae cân Joni Mitchell wrth i ni gerdded i mewn sydd wastad yn arwydd da!

Wrth i mi bori trwy’r adran “ffuglen newydd”, ffeindiais gopi o The Trio gan Johanna Hedman. Wnaeth y llyfr tynnu fy sylw yn syth efo’r clawr du a gwyn sy’n dangos llun o rywun yn gorwedd wrth ymyl llyn a’r haul yn disgleirio ar y dŵr. Stori sy’n dilyn hanes tri pherson dros ddau haf a’r cysylltiadau maen nhw’n ffurfio efo’i gilydd. Mae’r llyfr wedi cael ei chyfieithu o Swedeg ac yn cynnwys dipyn o benodau yn crwydro o gwmpas strydoedd Stockholm, Berlin, Efrog Newydd a Pharis: Dw i wedi bod isio ei darllen am dipyn, felly roedd o’n drip bach llwyddiannus iawn yn y diwedd.

Erbyn hyn, dw i tua hanner ffordd trwy Haf o Hyder a The Trio ac yn mwynhau’r ddau yn fawr iawn am resymau gwahanol – maen nhw mor wahanol i’w gilydd. Mae Haf o Hyder yn gymysg o straeon a cherddi hyfryd a hafaidd ond hefyd efo pwyslais ar bwysigrwydd gofalu am ein hiechyd meddwl. I fi, mae’r casgliad wedi llwyddo i ddangos sut mae’r proses a’r profiad o ddarllen yn gallu bod yn dda i’ch iechyd meddwl ac yn bwysig ar gyfer llesiant. Efo iaith sy’n hawdd i’w darllen a’r cyfle i ddysgu tipyn o eiriau newydd (wel, i fi o leiaf), mi fyswn i’n bendant yn argymell Haf o Hyder i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg i godi calon dros yr haf neu unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Weithiau mae llyfrau yn dod i mewn i’n bywydau yn union pan rydyn ni eu hangen, a dyma sut dw i’n teimlo efo’r ddau dw i’n darllen ar hyn o bryd. Rhwng y ddau lyfr yma, mae gen i gymysg bach hyfryd o Gymru a gwledydd pell: rhywbeth i’w fwynhau ar ddiwrnod braf o haf.

Fy nhaith i ddysgu’r iaith

Francesca Sciarrillo

Colofn newydd gan Francesca Sciarrillo, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2019