Mae ‘Rownd a Rownd’ ar S4C yn dathlu mis Pride gyda phedair monolog gan awduron ifanc.

Bydd y monologau yn cael eu cyhoeddi ar YouTube ‘Rownd a Rownd’ fory (dydd Llun, Mehefin 6), yn dilyn cydweithio rhwng ‘Rownd a Rownd’, yr Eisteddfod Genedlaethol a Mas ar y Maes, gyda chefnogaeth Stonewall Cymru.

Y pedwar awdur yw:

  • Leo Drayton, 21 oed o Gaerdydd
  • Lowri Morgan, 24 oed o Gaernarfon
  • Niall Grant-Rowlands, 21 oed o Fangor
  • Laurie Elen Thomas, 19 oed o Gaerfyrddin

Dyma’r alwad gyntaf gan ‘Rownd a Rownd’, sy’n datblygu eu cynnwys ar-lein, ac yn chwilio am ffyrdd newydd o ddod o hyd i dalent y dyfodol a dweud straeon modern o Gymru yn ddigidol.

Roedd rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu monolog am fywyd person ifanc LHDTC+ yng Nghymru heddiw ac ar ôl sawl gweithdy, cafodd y monologau eu ffilmio yn stiwdio ‘Rownd a Rownd’ yn Llangefni, a’r awduron yn cael cyfle i gynhyrchu.

Bwriad y prosiect yw dod o hyd i leisiau newydd sy’n cael eu tangynrychioli ac sy’n newydd i’r byd teledu, i ddatblygu’r gyfres a’r diwydiant teledu yng Nghymru.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n meithrin talent newydd a gweithio gyda nhw i ddatblygu eu gwaith gyda ni,” meddai Ciron Gruffydd, Golygydd Cynnwys Digidol ‘Rownd a Rownd’.

Rownd a Rownd

Bethan Lloyd

Mae Catrin Mara a Huw Llŷr Roberts yn actio yn Rownd a Rownd