Mae llety newydd i bobol sy’n dysgu Cymraeg yn agor heno (nos Wener, 12 Awst).

Fe fydd Garth Newydd yn Llanbedr Pont Steffan yn helpu i godi hyder pobol sy’n dysgu Cymraeg. Dyma’r llety cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mae Marcus Whitfield yn rhedeg paned.cymru. Mae’r fenter yn cynnal cyrsiau i godi hyder dysgwyr Cymraeg. Marcus sy’n rhedeg y fenter newydd yn Garth Newydd. Fe fydd Nia Llywelyn yn cefnogi’r fenter fel tiwtor Cymraeg gwirfoddol. Yma mae Nia yn ateb cwestiynau Lingo360 am Garth Newydd…


Beth ydy Garth Newydd?

Mae’n llety i bobol sy’n dysgu Cymraeg ddod i aros er mwyn codi eu hyder yn defnyddio’r iaith. Mi fyddan nhw’n gallu cymysgu gyda siaradwyr iaith gynta’. Mae’r llety yng nghanol tref Llanbed ac yn lle perffaith i ddysgwyr aros. Mae’r prosiect yn freuddwyd i mi a dw i mor lwcus bod Marcus wedi bod yn barod i fentro.

Beth fydd dysgwyr yn gallu gwneud yno?

Bydd pobol yn gallu mwynhau penwythnosau Cymraeg sy’n cael eu trefnu yno. Ry’n ni’n rhedeg pob math o benwythnosau. Mae llawer ohonyn nhw efo themâu fel ffotograffiaeth, garddio neu hanes a chwedlau Cymru. Mi fyddwn ni hefyd yn aml yn cael gwesteion gwadd yn ystod y penwythnosau hyn.

Ry’n ni hefyd yn gweithio gyda busnesau a chymdeithasau lleol fel Gwinllan Llaethliw, Canolfan y Barcud Coch a chlwb bowlio lleol. Bydd hyn yn rhoi profiadau diddorol yn y Gymraeg i’r bobol sy’n aros yn Garth Newydd.

Ry’n ni wedi bod yn rhedeg cyrsiau tebyg yng Nghiliau Aeron ers Gorffennaf 2021 sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’n amlwg bod galw mawr am gyfleoedd fel hyn i ddysgwyr gymysgu gyda siaradwyr iaith gyntaf a mwynhau diwylliant Cymraeg. Bydd SaySomethinginWelsh hefyd yn dod â’u bŵtcamps i Garth Newydd.

Yr actores Gillan Elisa (canol) a Marcus Whitfield (canol ar y dde)

Beth fyddwch chi’n gwneud i lansio Garth Newydd?

Bydd digon o fwrlwm i noson yr agoriad heno (nos Wener, Awst 12) yng nghwmni’r actores a’r gantores Gillian Elisa. Mae hi wedi bod yn gefnogol iawn i’r fenter.

Bydd penwythnos Cymraeg cynta’ Garth Newydd hefyd yng nghwmni Doctor Cymraeg, awdur a thrydarwr sy’n cefnogi dysgwyr.

Mae hefyd yn gyfle i agor y drws i’r gymuned achos bydd cefnogaeth y gymuned yn bwysig iawn i lwyddiant Garth Newydd.

Mae agoriad swyddogol Garth Newydd heno (nos Wener, 12 Awst) am 7pm.

Ewch i paned.cymru i weld yr holl benwythnosau sy’n cael eu trefnu.