Dych chi’n hoffi datrys dirgelwch? Dych chi eisiau ymarfer eich Cymraeg tra’n chwarae ditectif?

Bydd digwyddiad cyffrous i ddysgwyr ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron heddiw (Dydd Mercher, 3 Awst).

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal Whodunnit am 5yp ym Maes D.

Mae’r digwyddiad yn debyg i’r Whodunnits rhithiol oedd yn cael eu cynnal gan y Ganolfan i’r dysgwyr yn ystod y pandemig.

Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae rhywun wedi lladd y tiwtor Gwenda Gramadeg.  Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddilyn y cliwiau a holi pum person amheus er mwyn darganfod pwy ydy’r llofrudd.  Bydd llawer o gyfrinachau yn cael eu datgelu yn ystod y digwyddiad.

Mae’r Whodunnit yn addas i ddysgwyr o bob lefel, a bydd tiwtoriaid ar gael i’ch helpu wrth ddatrys y dirgelwch.