Ydych chi’n hoffi gwrando ar y radio? Oeddech chi’n gwybod bod cysylltiad rhwng Cymru a datblygiad y radio? Mae amgueddfa yn Ninbych yn edrych ar hanes y radio. Mae Amgueddfa Radio Gwefr heb Wifrau yng Nghanolfan Iaith Clwyd, pencadlys Popeth Cymraeg yn y dref. Ioan Talfryn ydy prif weithredwr Popeth Cymraeg. Yma mae o’n ateb cwestiynau Lingo newydd am yr amgueddfa…


Ioan, beth ydy cysylltiad Cymru gyda datblygiad y radio? 

Mae gan Gymru ran fawr yn natblygiad y radio. Roedd Cymru yn ganolog i’r darganfyddiadau gwyddonol oedd wedi arwain at ddatblygiad y radio.  David Edward Hughes oedd y person cyntaf i ddarganfod tonfeydd radio.  Roedd ei deulu’n dod o Gorwen. Roedden nhw wedi symud i’r Unol Daleithiau pan oedd David Hughes yn ifanc.  Mae Medal Wyddonol David Edward Hughes yn cael ei roi bob blwyddyn gan yr Academi Brydeinig. Mae’n cael ei roi i wyddonydd sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig.  Mae’r rhai sydd wedi cael y wobr yn cynnwys Steven Hawking.

Roedd Cymru wedi chwarae rhan fawr yng ngwaith Marconi hefyd. Marconi oedd wedi anfon y neges radio cyntaf erioed o Waunfawr i Ynys Môn.

Pam dach chi’n meddwl bod y radio wedi bod mor bwysig i roi Cymru ar y map? 

Yn ystod y 1930au roedd y  BBC wedi penderfynu creu’r ‘Wales Region’ o fewn eu gwasanaeth. Roedd hyn yn golygu bod y gair ‘Wales’ yn cael ei ddangos fel enw ar setiau radio dros y byd i gyd. Roedd Cymru yn cael ei gweld fel gwlad gan wledydd eraill y byd, nid fel rhan orllewinol o Ynysoedd Prydain. Roedd Cymru hefyd yn chwarae rygbi a phêl-droed yn rhyngwladol fel Cymru. Roedd hyn yn wahanol i Gatalunya a Llydaw, er enghraifft, sy’n cael eu gweld fel ardaloedd o fewn gwladwriaethau Sbaen a Ffrainc. Roedd hyn i gyd wedi helpu i ddangos bod Cymru a’r Cymry yn wlad a chenedl ar wahân i Loegr.

Beth sydd i’w weld yn yr Amgueddfa Radio Gwefr heb Wifrau yn Ninbych?

Mae gan yr amgueddfa gasgliad diddorol iawn o hen radios. Mae rhai o oes gynnar iawn y dechnoleg i fyny hyd at y cyfnod modern.  Mae’r radios mewn blychau arddangos gwydr. Mae’r amgueddfa yn edrych ar hanes radios o ddechrau’r ugeinfed ganrif ymlaen.  Mae’n rhoi hanes datblygiad y radio a’r cysylltiad amlwg gyda Chymru.  Mae’r hanes hwn hefyd wedi’i gynnwys mewn llyfr lliw llawn oedd wedi cael ei ysgrifennu gan David Jones. Fo oedd wedi sefydlu’r amgueddfa ac oedd yn berchennog gwreiddiol y casgliad o radios.

Pryd agorodd yr amgueddfa a beth yw ei hanes?

Mae’r amgueddfa ar lawr gwaelod Canolfan Iaith Clwyd yn Ninbych. Dyma le mae pencadlys Popeth Cymraeg sy’n dysgu Cymraeg i Oedolion yn Sir Ddinbych.  David Jones, Maer Dinbych oedd wedi dechrau’r ymgyrch i sefydlu’r ganolfan iaith nôl ym 1988. Roedd o’n ddysgwr Cymraeg ei hun.  Roedd David yn gefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg. Roedd yn dechnegydd gyda throsglwyddydd radio a theledu Moel Y Parc ym mryniau Clwyd. Roedd diddordeb mawr ganddo hefyd mewn casglu hen radios.  Ar ddiwedd ei oes, pan oedd yn dioddef o gancr, roedd David wedi sefydlu elusen Gwefr Heb Wifrau. Roedd o wedi rhoi ei gasgliad mawr o radios i’r amgueddfa yn y ganolfan iaith. Roedd yr amgueddfa wedi agor yn swyddogol yn 2008.

Pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr amgueddfa?

Mae gwirfoddolwyr y ganolfan yn cynnal teithiau tywys o gwmpas yr amgueddfa ar gyfer y cyhoedd. Maen nhw hefyd yn trefnu darlithoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ganolfan iaith. Mae’r darlithoedd am bethau fel gwyddoniaeth, a bywyd Cymru a’r diwylliant Cymraeg. Mae’r amgueddfa hefyd yn casglu atgofion pobol am eu profiad o ddefnyddio’r radio. Mae’r atgofion yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr amgueddfa www.gwefrhebwifrau.org.uk/cy/

Mae croeso i unrhyw un ddod yn wirfoddolwr gyda’r amgueddfa.  Am fwy o fanylion cysylltwch â:  gwybod@gwefrhebwifrau.cymru

Bydd yr amgueddfa ar agor bob dydd yn ystod ymweliad Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 4.

Lingo Newydd

Y cylchgrawn i bobl sy’n dysgu Cymraeg