Mae Martina Roberts yn dod o’r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol.

Ond mae hi’n byw yn Sir Benfro nawr, ac wedi dysgu Cymraeg.

Mae hi’n dweud bod dysgu Cymraeg wedi agor drysau iddi, ac mae hi’n teimlo’n rhan o deulu arall.

Symudodd Martina, sy’n siarad Tsiec, Saesneg ac ychydig o Almaeneg, i wledydd Prydain ddeunaw mlynedd yn ôl, ac mae hi’n byw yn Noc Penfro gyda’i gŵr Siôn, sy’n siarad Cymraeg.

Ddwy flynedd yn ôl, cwblhaodd Martina y cwrs sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn ar gyfer athrawon, ac mae hi bellach yn defnyddio’i Chymraeg bob dydd yn ei swydd fel Athrawes Cyfnod Sylfaen a Chydlynydd yn Ysgol Gynradd Manorbier.

Ers cwblhau ei blwyddyn sabothol, mae Martina wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg wythnosol.

Ar hyn o bryd, mae’n dilyn cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Penfro, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

‘Cymru ydy fy nghartref’

“Dw i’n colli fy nheulu ond maen nhw’n gefnogol iawn,” meddai Martina.

“Maen nhw’n deall pam fy mod i’n teimlo bod angen i mi ddysgu Cymraeg, gan mai Cymru ydy fy nghartref i nawr.

“Ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg, dw i’n teimlo ’mod i’n perthyn i Gymru, a dw i eisiau defnyddio’r sgiliau dw i wedi eu dysgu i hyrwyddo’r iaith cymaint ag y galla i yn yr ysgol.”

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim i bobol sy’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru ym mis Medi.

“Ewch amdani, peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau.

Manteisiwch ar bob cyfle i siarad, gwrando neu ddarllen Cymraeg.

“Beth oedd yn gweithio i mi oedd gwneud nodyn o’r geiriau newydd yr oeddwn wedi eu dysgu’r diwrnod hwnnw, a’u darllen cyn i mi fynd i’r gwely.”

Megis dechrau fy nhaith’

Mae Martina Roberts wrth ei bodd yn defnyddio’i Chymraeg ym mhob sefyllfa, ac mae’n gweithio’n galed er mwyn cefnogi staff Ysgol Manorbier a datblygu dwyieithrwydd ar draws yr ysgol.

“Dw i bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg,” meddai.

“Dw i bellach yn siarad Cymraeg gyda fy ngŵr a’i deulu, gyda staff a phlant yr ysgol yn ogystal â’r gymuned ehangach.

“Megis dechrau fy nhaith i ddysgu Cymraeg oedd y cwrs sabothol, a dw i methu aros i weld lle fydd y Gymraeg yn mynd â fi nesaf!”