Dych chi’n hoffi cerdded neu seiclo? Dych chi’n hoffi mynd i lefydd hanesyddol? Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda eisiau ail-agor hen dwnnel yn yr ardal.
Mae Twnnel y Rhondda yn dwnnel rheilffordd rhwng pen uchaf Cymoedd y Rhondda ac Afan. Roedd wedi cael ei agor yn yr 1880au. Roedd hyn ar adeg pan oedd glo stêm o Gymru yn cael ei allforio ar draws y byd. Cafodd y twnnel ei gau yn 1968 oherwydd problemau gyda’r to. Erbyn 1980, roedd y ddwy fynedfa wedi cael eu claddu‘n llwyr.
Nawr, mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda eisiau troi’r twnnel yn atyniad twristiaeth. Y syniad ydy bod pobl yn gallu cerdded neu seiclo drwy’r twnnel. Mae’r twnnel bron i ddwy filltir o hyd. Dyma fyddai’r twnnel hiraf yn Ewrop lle fyddai pobl yn gallu cerdded a seiclo, a’r ail fwyaf yn y byd. Mi fyddai’n cymryd dros awr i gerdded o un pen y twnnel i’r llall.
Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn credu y bydd yn denu llawer o dwristiaid. Maen nhw’n dweud y bydd yn helpu’r ardal sydd wedi dioddef ar ôl i’r diwydiant glo fynd.
Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn elusen. Cafodd ei sefydlu yn 2014. Mae gan y Gymdeithas 1,126 o aelodau sy’n talu £10 y flwyddyn. Mae’r aelodau yn dod o Rhondda Cynon Taf, a dros Gymru, Lloegr a’r byd.
Maen Cymdeithas Twnnel y Rhondda eisiau codi arian er mwyn ail-agor y twnnel. Roedd arolwg o’r twnnel wedi cael ei wneud gan Balfour Beatty yn 2018. Roedd yn dangos bod angen atgyweirio’r twnnel ond bod dim problemau mawr yno.
Trwsio’r twnnel
Tony Moon ydy ysgrifennydd prosiectau Cymdeithas Twnnel y Rhondda.
Mae e’n dweud: “Roedd arbenigwyr wedi dweud byddai’n costio tua £13.3 miliwn i ail-agor y twnnel. Roedd hynny 18 mis yn ôl. Fe fydd y ffigwr dipyn yn uwch erbyn hyn. Y broblem ydy mae’r twnnel yn berchen i’r Adran Drafnidiaeth yn San Steffan. Dydyn nhw ddim yn cael agor y twnnel ond maen nhw’n gorfod gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel. Maen nhw wedi dweud byddan nhw’n rhoi’r twnnel i Lywodraeth Cymru ac yn rhoi £60,000 iddyn nhw. Ond mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o arian. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud does dim arian ganddyn nhw i dalu am ail-agor y twnnel. A dyna le ydyn ni ar hyn o bryd. Rydyn ni’n trio cael cynnig gwell gan San Steffan.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am arolwg i weld os oes ystlumod yn y twnnel. Ond doedd dim ystlumod yno. Maen nhw’n gallu achosi problemau gyda phrosiectau fel hyn. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi arian i’r elusen i ail-agor hen siafft neu dwll aer. Dyna sut mae pobl yn gallu mynd i mewn i’r twnnel ar hyn o bryd.
Apêl
Mae Tony Moon yn dweud bod Cymdeithas Twnnel y Rhondda nawr wedi penderfynu cymryd y mater i’w dwylo eu hunain.
“Mae tîm o beirianwyr sifil sydd wedi ymddeol wedi bod yn meddwl am ffyrdd o ail-agor un porth neu fynedfa. Mae hyn yn golygu byddai cerbydau yn gallu mynd i mewn i’r twnnel i’w atgyweirio. Rydyn ni’n mynd i lansio apêl i drio codi’r arian yn breifat. Mae’r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffyrdd [Railways Heritage Trust] wedi rhoi £100,000 i ni tuag at y gost. Pan fyddwn ni’n gwybod faint mae hyn yn mynd i gostio byddwn ni’n lansio apêl i godi arian, gobeithio yn yr Hydref. Byddai hynny wedyn yn denu grantiau eraill,” meddai Tony.
Mae’r elusen hefyd eisiau syniadau gan bobl er mwyn gwneud y twnnel yn atyniad poblogaidd.
“Rydyn ni eisiau gallu cadw diddordeb pobl wrth iddyn nhw gerdded neu seiclo drwy’r twnnel. Un syniad ydy cynnwys archif digidol am hanes Cymru gan y Llyfrgell Genedlaethol. Fe fydd pobl yn gallu gweld pethau gwahanol a dysgu am hanes Cymru wrth fynd drwy’r twnnel,” meddai Tony.
Os dych chi eisiau dod yn aelod o’r gymdeithas neu eisiau rhannu syniadau ewch i: www.rhonddatunnelsociety.co.uk
Hanes Cymdeithas Twnnel y Rhondda
Steve Mackey oedd wedi dechrau’r Gymdeithas yn 2014.
Roedd y twnnel wedi cau yn 1968. Roedd Steve tua 12 oed ar y pryd. Roedd ganddo lawer o ddiddordeb yn y twnnel. Cyn i’r twnnel gau roedd e wedi ysgrifennu ar garreg uwchben y porth – “Plîs agorwch fi”.
Ond wedyn, roedd y garreg uwchben y porth wedi mynd ar goll. Doedd neb yn gallu dod o hyd i’r garreg. Tua 40 mlynedd wedyn roedd Steve wedi colli ei waith. Aeth am dro i lawr y Cwm.
Fe welodd e garreg o dan glawdd. Aeth i edrych a dyna le oedd y garreg. Roedd e wedi trefnu symud y garreg a mynd a hi at saer maen i’w thrwsio.
Roedd seremoni fawr yng ngorsaf drenau Treherbert pan gafodd y garreg ei rhoi yn ôl ar ben y porth. Roedd pobl wedi meddwl, “beth am ail-agor y twnnel?”.
Roedd llawer o bobl wedi cyfarfod mewn tafarn i siarad am y syniad. Dechreuodd y gymdeithas ar ôl hynny. Nawr mae cannoedd o bobl yn aelodau o’r gymdeithas.