Josh Osborne o Poole sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.

Mae cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yn cael ei roi i unigolyn 19-25 oed sydd wedi dysgu Cymraeg.

Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Dorset yn Lloegr yn wreiddiol. Mae e bellach yn byw yn Abertawe. Mae Josh wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua dwy flynedd. Roedd ei gariad Angharad wedi ei annog i ddechrau dysgu Cymraeg.

Yma mae’n siarad â Lingo360…

Josh, sut wyt ti’n teimlo ar ôl ennill Medal y Dysgwyr?  

Dw i wedi blino’n lan! Ond dw i’n ddiolchgar iawn, dw i’n hapus.

Pam oeddet ti wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Achos fy nghariad i, Angharad. Hi oedd wedi ysbrydoli fi. Cwrddon ni yn y brifysgol. Yn y cyfnod clo symudais i mewn gyda’i theulu yn Abertawe. Roedd Angharad wedi anfon dolen cwrs Cymraeg i fi ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Wnes i gwrs 10 wythnos am ddim, yn dysgu ar-lein a joies i gymaint. Dyma tiwtor fi yn dweud byswn i’n mwynhau’r cwrs dwys yn fawr iawn. Hefyd wnes i lawer o SaysomethinginWelsh sy’n dda iawn am adeiladu hyder.

Sut mae Angharad a’i theulu yn teimlo nawr dy fod ti wedi ennill Medal y Dysgwyr?

Maen nhw’n falch iawn ohona’i, wrth gwrs. Yn anffodus doedden nhw ddim yn gallu bod yma heddiw ond dw i wedi cael negeseuon hyfryd ganddyn nhw.

Oedd dysgu Cymraeg yn anodd?

Dw i’n dod o gefndir mathemategol felly, i fi, y peth hawsaf oedd y gramadeg. Dw i’n gwybod bod llawer o bobl ddim yn hoffi gramadeg ond dw i’n mwynhau’r gramadeg Cymraeg felly mae’n eitha’ hawdd i fi. Hefyd ar ôl gwneud SaysomethinginWelsh mae’n hawdd gwneud camgymeriadau a gwybod bod ti wedi gwneud camgymeriad a gallu symud ymlaen.

Beth fysa ti’n dweud wrth bobl eraill sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Ym mis Medi mae cyrsiau am ddim i bobl ifanc. Hefyd mae dysgu ieithoedd fel oedolyn yn wahanol iawn i ddysgu iaith yn yr ysgol fyswn i’n dweud. Felly, jest trio fe.

Beirniaid Medal y Dysgwyr oedd Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price. Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei rhoi gan Glwb Rotari Dinbych. Roedd y seremoni wedi’i noddi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.