Mae Jean Brandwood a’i gŵr Jim yn hoffi cerdded. Maen nhw’n byw wrth ymyl Manceinion ond maen nhw wedi treulio llawer o amser ym Mhen Llŷn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Jean yn dysgu Cymraeg. Yn 2018 fe ddechreuodd y cwpl gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn. Roedd Jean wedi tynnu lluniau o’r daith ac wedi gwneud llawer o nodiadau. Mae’r nodiadau rŵan wedi cael eu troi’n llyfr – A Welsh Learner’s Ramble Along the Llŷn Coastal Path. Mae’r llyfr “fel breuddwyd” meddai Jean. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360…

Jean, lle dach chi’n byw a beth ydy’ch cysylltiad efo gogledd Cymru?

Dw i’n byw wrth ymyl Manceinion. Ers 1991 dw i wedi treulio llawer o amser ym Mhen Llŷn, ardal hardd yng ngogledd Cymru, efo fy ngŵr Jim, ac wedyn gyda’n dau fab, Tom a Simon. Wnaethon ni brynu carafán statig yn 2017. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n medru mynd hyd yn oed yn fwy aml rŵan.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg efo cwrs ardderchog ar-lein, sef SSIW (Say Something in Welsh) yn 2012. Dyn ni’n wastad yn trio cefnogi busnesau bach fel siopau a chaffis lleol. Trwy ddysgu Cymraeg wnes i ddod i werthfawrogi mwy am y diwylliant lleol, yn enwedig y gerddoriaeth, celf a llenyddiaeth.  Mae ’na lwyth o dalent yn Llŷn a’r rhan fwyaf o’r bobl yn siarad Cymraeg sydd yn ardderchog i helpu fi ymarfer pan dyn ni’n mynd yno.

Erbyn hyn, dw i’n trefnu grŵp sgwrs ym Manceinion ar gyfer dysgwyr hefyd. Mae’n grŵp ni yn cyfarfod dros Zoom unwaith bob mis ar y Sadwrn cyntaf, wedyn yng nghaffi Oriel Celf Manceinion bob trydydd Sadwrn, o 10.30yb. Mae gynnon ni dudalen Facebook ble dw i wastad yn rhannu’r manylion, linc Zoom a phethau diddorol Cymraeg. Enw’r dudalen ydy Dysgwyr Cymraeg ym Manceinion. Grŵp preifat ydy o ond mae croeso i bawb sy’n dysgu Cymraeg.

Cerdded yn ol i’r caffi yn Porthor, Gwynedd

Pryd wnaethoch chi ddechrau eich taith gerdded?

Rhwng 2018 a 2021, cafodd Jim a fi antur ddiddorol iawn. Wnaethon ni gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn, o Borthmadog i Gaernarfon. Mae’r ddau ohonom yn hoffi cerdded ond hefyd ry’n ni’n dau wedi cael problemau iechyd, sef cancr. Mae hyn wedi arafu ni braidd. Mae’r rhan fwyaf o ganllawiau yn awgrymu y gallwch chi gwblhau cerdded Llwybr Arfordir Llŷn mewn deg taith dros gyfnod o wythnos i bythefnos. Ond wnaethon ni dorri’r daith i 42 o deithiau cylchol. Roedden ni eisiau mwynhau’r profiad mewn ffordd hamddenol a chymryd sylw o’n hamgylchedd fel yr adar, blodau a’r golygfeydd godidog o’r môr wrth gwrs. Yn 2020, daeth Covid ac, yn ystod y cyfnod clo, daeth ein hantur i ben yn sydyn, tua hanner ffordd trwy ein taith. Yn y pen draw, wnaethon ni orffen ein hantur ar ôl i ni gael dychwelyd i Lŷn, ac roedd ein taith olaf ym mis Awst 2021.

Jean Brandwood gyda Myrddin ap Dafydd

Lle daeth y syniad ar gyfer ysgrifennu llyfr?

Yn ystod ein teithiau, roedden ni wedi bod yn tynnu llawer o luniau. Hefyd ro’n i wedi bod yn ysgrifennu nodiadau fel dyddiadur am ein profiadau, atgofion ac am y bobl leol – rhai hanesyddol a chyfredol. Felly, yn ystod y cyfnod clo, pan ges i fwy o amser sbâr, wnes i ddechrau datblygu a thacluso fy nodiadau.

Ar y dechrau o’n i’n bwriadu rhannu manylion ein hantur efo teulu agos yn unig. Erbyn y diwedd, o’n i’n meddwl am sut oedd dysgu Cymraeg wedi agor cymaint o ddrysau i mi ac o’n i eisiau rhannu hyn efo dysgwyr eraill. Wnes i ddechrau meddwl am y posibilrwydd o droi fy nodiadau yn llyfr, ac efallai ei hunan-gyhoeddi. Penderfynais i gynnwys rhywbeth am fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg a hefyd dipyn o eirfa Cymraeg yn y “llyfr”. Gwnaeth ffrind awgrymu y dylen i drio cael diddordeb cyhoeddwr.

Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth Gwasg Carreg Gwalch gyhoeddi fy llyfr! Roedd e fel breuddwyd! Wedyn ym mis Tachwedd, cafodd fy llyfr ei lansio yn Ffair Nadolig Nant Gwrtheyrn (y Ganolfan Iaith) yn Llŷn. Cefais fy nghyfweld (yn y Gymraeg) gan Myrddin ap Dafydd, sylfaenydd Gwasg Carreg Gwalch ac Archdderwydd Cymru. O’n i’n nerfus iawn ond roedd e’n brofiad bythgofiadwy a hefyd yn gyfle ardderchog i ymarfer siarad Cymraeg.

Mae’r llyfr – A Welsh Learner’s Ramble Along the Llŷn Coastal Path gan Jean Brandwood – ar gael mewn siopau llyfrau annibynnol Cymraeg neu ar-lein.

Jean Brandwood yn arwyddo copi o’r llyfr