‘‘Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd,” – dyna beth mae dysgwraig ifanc o Gaerdydd yn dweud.

Mae Elinor Staniforth wedi syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg.

Mae hi nawr yn astudio gradd Meistr mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Elinor wedi cael swydd fel tiwtor Dysgu Cymraeg.

Mae hi’n dweud ei bod “eisiau i eraill gael yr un profiad â dw i wedi ei gael yn yr ystafell ddosbarth”.

Roedd Elinor wedi mynd i Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.

Roedd hi wedi astudio’r Gymraeg ar gyfer TGAU.

Wedyn aeth Elinor i astudio Celf yn Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen.

Pan ddaeth hi nôl i Gaerdydd roedd hi eisiau cyfarfod pobol.

Roedd hi wedi penderfynu mynd i ddosbarth Cymraeg. Roedd hynny yn hydref 2019.

‘‘Pan ddes i adref, roedd fy ffrindiau wedi gadael Caerdydd.  Ro’n i’n chwilio am swydd a ro’n i eisiau cyfarfod pobl, felly nes i benderfynu rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg.  Dyna’r peth gorau wnes i achos dw i wedi gwneud ffrindiau oes.  Pan aeth y dysgu ar-lein achos Covid-19, mi wnes i gyfarfod mwy o bobol.

“Roedd dysgu ar-lein yn ystod y pandemig yn gymorth mawr i mi ac mae wedi bod yn hyfryd croesawu dysgwyr o bob cwr o’r byd i’r dosbarth.’’

Cynllun hyfforddiant

Bydd Elinor yn dechrau ar ei gwaith rhan amser fel tiwtor ym mis Medi.

Mae’r swydd gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cyn dechrau ei swydd, bydd Elinor a 12 o bobol ifanc eraill yn cymryd rhan mewn cynllun hyfforddiant.

Mae’n cael ei gynnal i ddarpar diwtoriaid Dysgu Cymraeg ddechrau mis Gorffennaf.

Mae’n rhan o gynllun Tiwtoriaid Yfory y Ganolfan Genedlaethol.

“Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, ro’n i’n gwybod mod i wedi dod o hyd i’r pwnc cywir,” meddai Elinor.

“Dw i mor falch mod i wedi cael cynnig lle ar y cynllun, a dw i’n edrych ymlaen at ddysgu eraill.”

O fis Medi ymlaen, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobol ifanc 18-25 oed.

Mae Elinor yn credu bod treulio ychydig o amser bob wythnos yn dysgu Cymraeg yn werth chweil a byddai’n annog eraill i gymryd mantais o’r cynnig.

‘‘Ewch amdani. Bydd dysgu Cymraeg yn edrych yn dda ar eich CV ac mi wnewch chi gyfarfod pobl mor ddiddorol.

“Yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn mwynhau dysgu ieithoedd, ond mae dysgu iaith yn bosib, dych chi angen amser ac amynedd.

“Does dim angen i chi fod yn wych gydag ieithoedd, dim ond dal ati a pheidio â rhoi’r gorau iddi cyn cychwyn!”

Os dych chi eisiau cymryd rhan yn y cyrsiau Cymraeg am ddim i bobol ifanc 18-25 oed ewch i – https://dysgucymraeg.cymru/18-25