Os dach chi’n chwilio am raglen radio sydd efo cymysg gwych o gerddoriaeth eclectig, sioe Georgia Ruth yw’r rhaglen radio i chi. Heb os, mi fyddwch chi’n clywed  caneuon o wahanol steiliau a genre ac artistiaid arbrofol o Gymru a thu hwnt.

Dw i wedi bod yn ffan fawr o’r rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf ac yn trio fy ngorau i diwnio fewn neu ddal i fyny ar BBC Sounds bob wythnos. Un o’r pethau dw i’n mwynhau fwyaf am y sioe yw clywed caneuon gan artistiaid rhyngwladol ac mewn ieithoedd gwahanol hefyd. Ychydig o wythnosau yn ôl, pan oedd Rhys Mwyn yn cyflwyno yn lle Georgia, ges i’r cyfle i ddewis cân fel rhan o eitem o’r enw ‘Cenfigan’.

Fel mae’r enw yn awgrymu, y bwriad tu ôl i ‘cenfigan’ yw dewis cân ti’n genfigennus nad wyt ti wedi ei hysgrifennu neu gyfansoddi dy hun. Roeddwn i mor, mor gyffrous am y syniad o ddewis cân. Y broblem oedd, roedd hi mor anodd dewis! Mae yna gymaint o ganeuon fyswn i wedi licio ysgrifennu fy hun ac roedd rhaid i mi gyfyngu ar yr opsiynau trwy feddwl am fy hoff fandiau ac artistiaid.

Digwydd bod, roeddwn i’n darllen llyfr sydd wedi’i osod yn y byd cerddoriaeth yn ystod yr un wythnos y dewisais fy ‘cenfigan’ i sioe Georgia Ruth. Enw’r llyfr yw Curiad Gwag gan Rebecca Roberts. Mae’n dilyn anturiaethau a helynt grŵp roc trwm o’r enw Konquest o’r Wyddgrug a Sophie Shaw, eu Rheolwr Taith.

Yr awduron Bethan Gwanas a Rebecca Roberts yn lansiad Curiad Gwag

Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at ei ddarllen ers lansiad y llyfr nol ym mis Medi yn Llyfrgell Yr Wyddgrug. Daeth yr awduron Rebecca Roberts a Bethan Gwanas i’r lansiad mewn llyfrgell llawn darllenwyr o ogledd ddwyrain Cymru: llawer ohonynt yn gallu codi copi o’r llyfr ar y noson a chael ei lofnodi gan yr awdures ei hun.

Un o’r themâu mwyaf yn Curiad Gwag, yn fy marn i, yw cerddoriaeth sydd dipyn bach yn wahanol i’r arfer ac efallai’n cael ei ystyried yn ‘arbrofol’ neu’n ‘amgen’. Mae Konquest yn fand Cymraeg sy’n trio creu miwsig newydd a chyffrous i wrandawyr Cymru. Roedd hynny wedi gwneud i mi feddwl am fandiau ac artistiaid sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg. A dyma fi’n ffeindio’r gân berffaith ar gyfer fy ‘cenfigan’.

Yn y diwedd, mi wnes i fynd efo cân gan fy hoff fand Cymraeg sef Datblygu. Fel sawl band neu artist sy’n cael sylw ar sioe Georgia Ruth, mae Datblygu wedi cael eu disgrifio fel band ‘arbrofol’, ac yn y ffordd fwyaf positif a chyffrous. Felly dewis addas iawn, dw i’n gobeithio, i sioe sy’n rhoi sylw i gerddoriaeth o bob math.

Enw’r trac dewisais yw ‘Cyn Symud i Ddim’: un o’u caneuon mwyaf enwog ac un sydd, i fi beth bynnag, yn dangos talent y band. Bob tro dw i’n ei chlywed, dw i’n ffeindio fy hun yn meddwl amdano am oriau, ac yn canolbwyntio ar linell neu eiriau penodol sydd wedi aros yn y cof.

Cyd-ddigwyddiad hapus oedd darllen llyfr am gerddoriaeth eithaf arbrofol neu wahanol i’r fath o fiwsig dw i’n licio fy hun. A dw i’n meddwl y byddai Konquest yn siŵr o gael eu chwarae ar sioe Georgia Ruth neu Rhys Mwyn ar Radio Cymru os oeddan nhw’n bodoli go iawn! Ar ôl chwarae’r gân gan Datblygu, wnaeth Rhys Mwyn sôn am fod yn y stiwdio efo’r band eu hunain, felly roedd genna’i reswm i fod hyd yn oed yn fwy cenfigennus!