Dach chi’n hoffi stori arswyd? Dach chi’n hoffi straeon gwerin? Mae Sgrech y Creigiau yn gyfrol o straeon ysbryd gan yr awdur Elidir Jones. Mae’r saith stori yn seiliedig ar hen chwedlau gwerin ac yn mynd a ni i fyd ysbrydion, creaduriaid rhyfedd, tylwyth teg twyllodrus, a bwganod. Yma mae Elidir Jones yn ateb cwestiynau Lingo360…

Elidir, pam oeddech chi wedi ysgrifennu straeon arswyd?

Dw i wedi bod yn ffan o straeon arswyd erioed. Dim ots pa mor ‘wir’ ydyn nhw – o lyfrau Byd yr Anhysbys gan Wasg Gomer o’r 80au, i nofelau Stephen King, i waith gan awduron llai adnabyddus fel Thomas Tryon ac E.F. Benson. Mae’n syndod ei bod wedi cymryd mor hir â hyn i mi sgwennu llyfr arswyd fy hun. Yn draddodiadol, dydi darllenwyr ddim wedi cael llawer o ddewis o ran straeon Cymraeg arswydus. Mae ambell i berl fel Drychwll (2020) gan Siân Llywelyn ac Y Clychau (1972) gan D. Griffith Jones. Ond un rheswm mawr dros ysgrifennu’r gyfrol oedd llenwi’r bwlch yna. Dw i’n gobeithio y bydd awduron eraill yn mynd ati i ysgrifennu am bethau sbwci, a rhoi digon o ddeunydd darllen i ni sy’n hoff o gael ein dychryn.

Sut fysach chi’n disgrifio Sgrech y Creigiau?

Cyfrol o straeon byrion ydi Sgrech y Creigiau i bobl ifanc – er bod y straeon yn ddigon brawychus i ddychryn rhai llawer hŷn, ddylai wybod yn well!

Mae’r saith stori yn y llyfr wedi eu hysbrydoli gan straeon gwerin ‘go-iawn’ o Wynedd. Maen nhw’n straeon am ysbrydion, tylwyth teg, a hen ddewinod sy’n gwrthod marw. Er mwyn eu gwneud nhw’n fwy brawychus hyd yn oed na’r rhai gwreiddiol, fe wnes i benderfynu eu gosod yn y byd modern, efo plant heddiw’n dod wyneb-i-wyneb â holl arswydion y gorffennol.

Gobeithio y bydd hynny’n tanio dychymyg cenhedlaeth newydd, yn gwneud iddyn nhw ofni be sy’n llechu yn y cysgodion. Efallai bydd yn eu hysbrydoli i rannu stori ysbryd neu ddwy eu hunain.

Elidir Jones. Llun gan Delyth Badder

Oes gynnoch chi ffefryn?

Mae’n anodd dewis ffefryn o blith y straeon, ond mae ‘Garth Dorwen’ yn dod yn agos. Dyma unig stori dylwyth teg y llyfr. Mae’n dangos eu bod nhw’n medru bod yn llawer mwy brawychus nac unrhyw ysbryd, ac yn hapus i ddial ar unrhyw un sy’n eu croesi. Yn bell iawn oddi wrth Tinkerbell, felly!

Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys gwaith celf gan Nest Llwyd Owen. Sut mae’r lluniau yn ychwanegu at y straeon?

Mae’r darluniau yn fwy dychrynllyd na’r straeon! Dw i wrth fy modd â’r syniad o blant ledled Cymru’n rhannu’r llyfr, yn dangos y lluniau i’w gilydd y tu hwnt i olwg rhieni neu athrawon.

Beth bynnag eich oed, gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r darllen. Cofiwch, does dim yn bod â chau’r llyfr a throi at rywbeth mwy sidêt os ydi pethau’n mynd yn ormod!

Mae Sgrech y Creigiau yn cael ei gyhoeddi gan Llyfrau Broga ar ddechrau Tachwedd, £8.99.