Josh Marsh ydy Pennaeth Gweithrediadau Pêl-droed newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’n olynu Mark Allen, y Cyfarwyddwr Chwaraeon.

Mae Josh yn 30 oed, ac roedd e’n arfer gweithio i Huddersfield ac yn chwarae i’r tîm ieuenctid yn Wrecsam.

Bydd e’n recriwtio chwaraewyr newydd, ac yn gweithio gyda’r prif hyfforddwr Russell Martin a’r prif weithredwr Julian Winter.

Josh oedd “yr ymgeisydd oedd yn sefyll allan ar gyfer y rôl”, meddai’r prif weithredwr.

Gyrfa

Ar ôl graddio o Goleg Hartpury a gadael Wrecsam, gweithiodd Josh fel sgowt i Wolves a Southampton, ac fel prif sgowt i Huddersfield.

Roedd e’n ffigwr allweddol pan gafodd Huddersfield ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2017.

Daeth e’n Bennaeth Recriwtio‘r clwb wedyn.

Mae’n dweud ei bod “yn fraint ac yn anrhydedd” cael swydd gydag Abertawe, “clwb sydd â hunaniaeth mor gryf a hanes o lwyddo“.