Geoff Miller ydy perchennogCegin Caribî. Mae’n mynd a’i fwyd Caribïaidd i wyliau a digwyddiadau ar draws Cymru. Mae Geoff yn dod o Jamaica yn wreiddiol. Roedd o wedi symud i Gymru yn 2000. Nawr mae o’n byw yng Nghaergybi yn Ynys Môn. Roedd Geoff yn arfer gweithio i gwmni fferi. Ar ôl colli ei waith gyda’r cwmni fferi, wnaeth Geoff benderfynu dechrau ei fusnes ei hun yn gwneud bwyd Caribïaidd yn 2020. Mae Geoff yn dysgu Cymraeg. Yma mae’n ateb cwestiynau Lingo360…

 Geoff, pryd wnaethoch chi symud i Gymru o Jamaica?

Wnes i gwrdd â fy ngwraig, Gwawr, pan oedden ni’n dau yn gweithio ar long bleser Princess Cruises. Roeddwn i wedi bod yn gweithio i’r cwmni am rai blynyddoedd. Mae Gwawr yn Gymraes ac yn dod o Ddinbych yn wreiddiol. Wnaeth Gwawr a fi symud yn ôl i’r Deyrnas Unedig yn 2000. Wnaethon ni fyw ym Manceinion am flwyddyn. Ond roedd Gwawr eisiau mynd yn ôl i Ddinbych ac ro’n i’n hoffi Cymru hefyd. Dw i’n hoffi bod mewn dinas ond ro’n i wrth fy modd efo’r golygfeydd a’r awyr iach yng Nghymru. Ro’n i’n dal i weithio ar y llongau fferi ac yn teithio o Ddinbych i Gaergybi bob dydd. Roedd yn daith hir! Wnaethon ni symud i Gaergybi tua 20 mlynedd yn ôl, er mwyn bod yn agosach at y gwaith.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers i fy mab Siôn gael ei eni yn 2001. Cymraeg ydy iaith gyntaf fy mhlant felly dw i wedi dysgu ychydig o Gymraeg dros y blynyddoedd, fel straeon i blant a chaneuon Cymraeg. Tua chwe blynedd yn ôl, wnes i ddod yn ddiffoddwr tân ar alw [i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru]. Wnes i benderfynu trio mynd ati o ddifrif i ddysgu Cymraeg. Rŵan dw i’n trio siarad Cymraeg bob cyfle dw i’n cael. Dw i’n gwrando ar bethau ar-lein ac yn mynd i Gaernarfon i ymarfer siarad Cymraeg. Mae pobl yn helpu fi ac maen nhw’n amyneddgar iawn. Yr unig bobl sydd ddim yn amyneddgar ydy fy nheulu – maen nhw’n dweud: “Dylet ti fod yn rhugl erbyn hyn!”. Dw i mor brysur efo’r gwaith does dim amser i fynd i wersi ond fyswn i’n hoffi mynd i bootcamp i drio dysgu mwy. Mae trio dysgu’r iaith dy hun yn gallu bod yn anodd.

Dych chi’n cael cyfle i siarad Cymraeg wrth redeg eich busnes Cegin Caribî?

Ydw. Dw i’n mwynhau coginio ac wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd. A dw i hefyd yn hoffi diddanupobl – dw i’n dipyn o showman! Dw i wedi mynd a threlar Cegin Caribî i lawer o wahanol lefydd fel Gŵyl Fwyd Caernarfon, oedd yn anhygoel. Wnes i hefyd fynd i Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych oedd yn grêt. Pan wnes i’r Ŵyl Fwyd ym Mhorthaethwy roedd honna ychydig yn wahanol. Roedd gen i feicroffon ac ro’n i’n dangos i bobl sut ro’n i’n gwneud y bwyd. Roedd o’n lot o hwyl. Wnes i gyw iâr jerk a thwmplins wedi’u ffrio. Mae siarad efo’r cwsmeriaid yn helpu fi i ddysgu Cymraeg.

Mi fedrwch chi ddarllen mwy am Geoff Miller yng nghylchgrawn lingo newydd [rhifyn Hydref/Tachwedd] sydd ar gael o 1 Hydref