Mae N’famady Kouyaté yn gerddor. Mae e’n chwarae llawer o wahanol offerynnau. Mae N’famady yn dod o Gini [Guinea] yng Ngorllewin Affrica yn wreiddiol. Nawr mae e’n byw yng Nghaerdydd. Mae N’famady yn un o’r cerddorion fydd yn perfformio yng Ngŵyl Triban yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych yr wythnos hon. Lingo360 sydd wedi bod yn ei holi…


N’famady, dych chi’n dod o Gini yn wreiddiol. Pam oeddech chi wedi symud i Gaerdydd?

Wnes i syrthio mewn cariad efo Cymraes ac wedyn syrthio mewn cariad efo Cymru. Wnes i symud i Gaerdydd tair blynedd yn ôl. Mae Caerdydd yn lle grêt i fyw. Dyw e ddim yn brysur fel Llundain. Mae’n gyfeillgar ac yn llonydd.

 

Dych chi wedi perfformio gyda llawer o gerddorion o Gymru fel Gruff Rhys a Lisa Jen Brown. Sut mae hyn wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth? A pam dych chi’n cynnwys geiriau Cymraeg yn eich caneuon? 

Un o’r gwyliau cyntaf lle wnes i berfformio yn y Deyrnas Unedig oedd gŵyl Ara’ Deg Gruff Rhys ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’n ardal Gymreig iawn ac roeddwn i wrth fy modd gyda sŵn yr iaith. Mae’n berffaith ar gyfer canu. Dw i’n siarad saith iaith yn barod felly mae dysgu iaith y wlad lle dw i’n byw yn teimlo’n naturiol iawn i fi. Dw i’n canu mewn llawer o ieithoedd traddodiadol Gorllewin Affrica fel Susu, Malinké a Baga. Mae ychwanegu geiriau Cymraeg yn fy nghaneuon yn gwneud synnwyr i fi yn fy mamwlad newydd.

 

Dych chi’n chwarae llawer o wahanol offerynnau. Un o’r rhai dych chi’n chwarae yw’r balafon. Beth yw’r balafon?   

Fy mhrif offeryn yw’r balafon. Mae’n seiloffon pren traddodiadol o Orllewin Affrica. Mae wedi’i wneud o bren khari gyda calabash oddi tano sy’n gwneud y mwyaf o’r sain. Mae’r balafon yn bwysig iawn yn niwylliant Gorllewin Affrica. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn seremonïau traddodiadol. Mae fy nheulu yn gerddorion ac wedi chwarae’r balafon ers cenedlaethau.

Y cerddor N’famady Kouyate

 

Pam dych chi’n meddwl ei fod yn bwysig cadw caneuon traddodiadol Mandingue Gorllewin Affrica yn fyw?

Ges i fy ngeni i deulu griot sy’n draddodiad barddol etifeddol. Ein cyfrifoldeb ni yw diogelu a rhannu diwylliant pobl Mandingue, drwy ganu hanesion teulu a straeon.

 

Sut dych chi’n canu’r caneuon mewn ffordd fwy modern?

Yn Gini roedd gen i grŵp traddodiadol-fodern oedd yn cymysgu offerynnau traddodiadol a modern. Roedd yn cyflwyno cerddoriaeth Mandingue gyda threfniannau mwy modern. Yma yng Nghymru dw i wedi mynd â hynny ymhellach drwy weithio gyda cherddorion lleol gyda chefndir mewn ffync, reggae, indie, pop, a jazz i greu cerddoriaeth newydd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd.

 

Dych chi’n dysgu Cymraeg?

Dw i wedi dechrau dysgu geiriau ac ymadroddion, ac mae gen i rai penillion dw i’n eu canu yn Gymraeg.

 

Oes gennych chi hoff eiriau Cymraeg?

Fy hoff eiriau Cymraeg ydy croeso, diolch, ac aros i fi yna!

 

Mae N’famady Kouyaté yn perfformio yng Ngŵyl Triban yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych ar nos Sadwrn, 4 Mehefin