Roedd 70% o’r bobol oedd wedi ateb pôl piniwn Lingo360 ar Twitter eisiau i’r Eisteddfod newid enw cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’.

Roedd y cyflwynydd Aled Hughes yn siarad am hyn ar Radio Cymru yn ddiweddar, ac yn dweud ei fod e’n hoffi’r term ‘siaradwr newydd’ yn lle ‘dysgwr’.

Mae’r Eisteddfod yn dweud eu bod nhw’n ceisio penderfynu beth yw’r term gorau.

Roedd Cyril Jones, beirniad y gystadleuaeth, yn dweud taw’r “hufen” – neu’r bobol orau – sydd yn cystadlu. Nid “dysgwyr” ydyn nhw, meddai.

“Dw i’n cytuno bod eisiau newid, dyn nhw ddim yn ddysgwyr,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg i Oedolion am 50 mlynedd, dosbarthiadau nos, ac ar hyn o bryd yn y dosbarthiadau sydd gen i, nid dysgwyr ydyn nhw. Maen nhw’n siaradwyr.

“Ond mae’n gallu helpu pobol sy’n dweud, ‘Dysgwr ydw i’.”