Mae nofel newydd yr awdures enwog Clare Mackintosh yn cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Iau, Awst 4).

Dyma’r llyfr cyntaf iddi’i osod yng Nghymru.

Mae ei nofelau wedi’u cyfieithu i 35 iaith, ac mae hi wedi gwerthu mwy na dwy filiwn o gopïau dros y byd.

Mae hi’n dod o Fryste yn wreiddiol, ond mae hi nawr yn byw yn Y Bala ac yn dysgu Cymraeg ers tua chwe blynedd.

The Last Party yw’r gyfrol gyntaf mewn cyfres sy’n dilyn y ditectif Ffion Morgan, a bydd hanes y ditectif yn ymddangos ar y teledu’n fuan hefyd.

Mae Clare Mackintosh wedi bod ar Faes yr Eisteddfod drwy’r wythnos, ac mae hi wedi bod yn “fendigedig” bod yma, meddai.

“Achos dw i’n byw yn Y Bala, ac mae gen i ddiddordeb mewn cymunedau bach a chymuned ger y ffin rhwng Lloegr a Chymru,” meddai wrth golwg360 wrth siarad am y penderfyniad i osod y nofel yng Nghymru.

“Mae’n ddiddorol sut mae’n teimlo i groesi o un wlad i un arall.

“Dw i’n nofio yn y llyn yn Y Bala, Llyn Tegid, ac roeddwn i eisiau creu lle ffuglennol lle mae yna lyn efo ffin sy’n rhedeg drwy ganol y llyn.

“Felly yn y llyfr, mae yna holiday resort ar ochr Lloegr a phentref Cymreig ar yr ochr arall ac mae yna lofruddiaeth rhwng y ddau, yn y llyn.

“Felly rhaid i dditectif sy’n Gymraes, Ffion Morgan, weithio efo ditectif o Loegr. Roeddwn i’n heddwas ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae’n anodd gweithio efo ardal wahanol, felly mae’n ddiddorol pan dw i’n sgrifennu i feddwl sut mae’n gweithio.”

Mae’r Eisteddfod wedi bod yn gyfle da i Clare Mackintosh ddefnyddio mwy o Gymraeg hefyd, ac mae hi’n annog dysgwyr eraill i ymweld â’r Eisteddfod.

Dyma hi i ddweud mwy am ei thaith yn dysgu’r iaith.

Mae mwy o wybodaeth am ei gwaith ar ei gwefan.