Mae Hiroshi Bowman yn dod o Chicago yn yr Unol Daleithiau’n wreiddiol. Nawr mae e wedi symud i Aberystwyth gyda’i wraig, sy’n dod o’r Alban.

Mae Hiroshi yn dysgu Cymraeg ac yn hyfforddi i fod yn athro ysgol. Mae’n dweud bod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd.

“Cyn i mi a fy ngwraig benderfynu symud i Gymru, doedd gen i ddim gwybodaeth flaenorol o’r iaith Gymraeg,” meddai Hiroshi.

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg ar ôl iddyn nhw benderfynu symud i Gymru. Wedyn, fe benderfynodd Hiroshi hyfforddi i fod yn athro.

“Unwaith i mi ddechrau darllen mwy am Gymru, fe ddes i ar draws cynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Daeth hi’n amlwg, er mwyn dysgu yma ac i wneud gwaith da, byddai angen o leiaf digon o Gymraeg i annog fy myfyrwyr ac i osod esiampl dda.”

Cyn symud i Gymru ym mis Awst eleni, roedd Hiroshi wedi cofrestru ar ‘Gwrs Brys‘ ar-lein Dysgu Cymraeg ym mis Gorffennaf gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Mae’r cwrs yn cael ei redeg gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Hiroshi wedi gwneud lefel gyntaf y cwrs Mynediad i ddechreuwyr. Mae e hefyd wedi bod yn dysgu ar ei ben ei hun gyda Duolingo.  Pan fydd e wedi gorffen ei hyfforddiant athrawon, bydd e’n treulio haf 2023 yn astudio unwaith eto.

Mae Hiroshi yn dweud ei fod yn bwysig dysgu gydag eraill.  “Roedd y cwrs dwys wedi helpu i roi mewn cyd-destun rhai o’r pethau roeddwn i wedi dysgu yn barod.  Roedd yn ysgogiad mawr bod yn rhan o gymuned o ddysgwyr.

“Roedd hi’n wych gallu gofyn cwestiynau a hefyd clywed cwestiynau gan ddysgwyr eraill ar y cwrs.”

Ieithoedd

Cafodd Hiroshi ei fagu yn siarad Saesneg, Siapanaeg, a Sbaeneg gartref. Aeth ati i ddysgu Saesneg yn yr ysgol. Am gyfnod roedd e’n gwrthod siarad Siapanaeg oherwydd ei fod wedi cael ei fwlio. Ond wrth iddo dyfu roedd yn gweld eisiau’r iaith ac mae hyn wedi aros gydag ef. Mae’n un o’r rhesymau pam ei fod e eisiau annog pobl ifanc i ddysgu eu hiaith yng Nghymru.

Yn yr Unol Daleithiau, roedd Hiroshi yn gweithio fel cyfreithiwr yn Chicago.  Pan wnaeth Hiroshi a’i wraig benderfynu symud i’r Deyrnas Unedig roedden nhw wedi edrych ar lawer o lefydd i fyw. Ond arfordir hardd Cymru oedd wedi eu denu fwyaf.

Mae Hiroshi yn hoffi’r amrywiaeth ddiwylliannol yn Aberystwyth.

“Mae’r Gymraeg yn rhan enfawr o’r gymuned a’r gymdeithas yng Nghymru ac, wrth gwrs, yn Aberystwyth.  Dyma’r holl brofiad diwylliannol.”

Mae Hiroshi yn dweud ei fod eisiau trochi ei hun yn yr iaith.

“Mae dysgu iaith, unrhyw iaith, a’i dysgu fel oedolyn yn her wych, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig bod mewn cymuned o ddysgwyr er mwyn cadw fynd.

“Rwy’n gobeithio, fel yr athro rhyfedd o America sy’n dangos diddordeb mewn dysgu a siarad Cymraeg, y bydd yn ddefnyddiol wrth i mi ddatblygu fy ngyrfa fel athro yng Nghymru.”

Bydd cyrsiau newydd i ddechreuwyr lefel Mynediad yn dechrau ym mis Ionawr.  Dyma linc i’r gwersi Dechreuwyr | Dysgu Cymraeg

New courses for Entry level learners (Mynediad) will be starting in January.  Here is a link to the lessons Beginners | Learn Welsh