Mae wedi bod yn sbel ers i fi fod yn Aberystwyth: tref lle mae gen i lawer o atgofion braf. Roeddwn i’n arfer mynd i weld fy chwaer, Cristina, pan oedd hi’n astudio yna. Saith mlynedd sydd rhyngom ni. Pan oedd hi yn y brifysgol, roeddwn i yn fy arddegau cynnar. Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i aros efo hi yn ei thŷ wrth ymyl yr harbwr.

Yn ystod ei hamser yn y brifysgol, aeth Mam a Dad a fi lawr i Aber sawl gwaith. Roedd Dad yn ddoniol iawn yn dynwared fy Nonno Guido – fy Nhaid i, a’i Dad o – yn trio ynganu enwau llefydd Cymraeg. Roedd gan fy Nonno acen Eidalaidd gref iawn ond wnaeth hynny ddim stopio fo trio ei orau glas i ynganu enwau Cymraeg fel Dolgellau – “Dong-a-lo” – a Machynlleth – “Myc-a-lo”. Doedd gan neb y galon i drio cywiro fo. Roedd o’n trio mor galed, a dyna beth sy’n bwysig!

Beth bynnag, aethon ni lawr i Aberystwyth gymaint â phosib i weld Cristina mewn gwahanol berfformiadau ac i weld hi’n chwarae mewn gemau rygbi. Wna’i byth anghofio’r olwg ar wyneb fy Mam pan welodd hi Cristina efo dau wydryn yn ei dwylo ar ôl ennill gem rygbi, dau beint mewn un gwpan, felly 4 peint i gyd, ac yn dweud “Madonna Mia!” (rhywbeth tebyg i ‘O Mam bach!’). Roedd fy Nhad, ar yr ochr arall, yn gwenu o glust i glust, a golwg o falchder ar ei wyneb.

Sori, dw i’n mwydro. Y pwynt yw, mae genna’i dipyn o atgofion braf o Aberystwyth. Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd yn ôl ar fy ngwyliau ac ar gyfer yr Eisteddfod yn Nhregaron. Wrth gwrs, mae’r dref wedi newid ers i Cristina adael. Mae sawl siop newydd fel Siop Inc ac ambell siop gyfarwydd fel Siop y Pethe, The Bookshop By the Sea a’r tair siop Polly’s.

Siop Agnelli’s yn Aberystwyth

Pasta perffaith

Un siop hollol newydd i mi oedd Agnelli’s: deli bach Eidalaidd sy’n llawn dop â chynnyrch Eidalaidd a bwyd cartref hyfryd. Felly, y siop fwyaf addas i Eidales fel fi sydd angen stocio fyny ar basta. Mae’n mynd yn anoddach i ddod o hyd i wahanol fathau o basta lle dw i’n byw. Pan dw i’n ffeindio siop basta, mae bendant yn werth gyrru dwy awr a hanner i’w brynu. Dw i’n gwybod bod hynny’n swnio’n rhyfedd – yn enwedig ar hyn o bryd efo’r prisiau petrol – ond mae’n werth y daith, efo’r dewisiadau sydd ar gael yn siop Agnelli’s.

Fel pob cwsmer yn y siop, fe gawson ni groeso cynnes iawn gan Chiara a Mario, y ddau berchennog. Wnaeth nifer o bobol leol ddod i mewn yn gofyn, “Pryd fydd y tiramisu yn barod?”. Dw i’n credu bod tiramisu Agnelli’s yn enwog ar draws Aberystwyth, a’r lasagne ffres hefyd. Mor hyfryd oedd clywed Chiara yn defnyddio bach o Gymraeg efo’r cwsmeriaid lleol hefyd.

Y silffoedd o basta yn siop Agnelli’s

Profiad eithaf emosiynol, mewn ffordd hapus a hiraethus, oedd pori trwy’r silffoedd o basta yn y siop. Gwelais wahanol fath o basta ac ambell un dw i ddim wedi gweld ers blynyddoedd. Daeth atgofion melys yn ôl ata’i o fy Nain, Mam, chwaer a modrybedd yn y gegin a’r oglau saws pasta, neu ‘sugo’, yn llenwi’r gegin a’r tŷ i gyd: pob un ‘sugo’ yn benodol i bob unigolyn.  Dw i’n dal i drio perffeithio ‘sugo’ fy hun, ac yn ceisio’n anobeithiol i wneud rysáit fy annwyl Fam.

Yn y diwedd, dewisais fy ffefrynnau personol – orecchiette a bucatini – a dau baced o basta stelline, sef siâp sêr bach, fel anrheg i Mam. Stelline yw’r pasta perffaith ar gyfer minestrina [math o gawl] – un o fy hoff brydau bwyd gan Mam a’r un gorau i’w gael pan ti’n teimlo’n sâl. Felly, anrheg i fi mewn gwirionedd!